Mae dros 100,000 wedi marw o Covid-19 yn Affrica ac mae yna brinder ocsigen meddygol i leddfu cleifion.

Nid yw brechu ar raddfa eang wedi digwydd ar y cyfandir sy’n gartref i 1.3 biliwn mewn 54 o wledydd gwahanol.

Ac mae amrywiolyn o’r feirws yn peri her i’r ymgyrch frechu yn Ne Affrica.

Y llynedd roedd yr awdurdodau yno yn cyfrif eu bendithion am nad oedd niferoedd mawr yn marw, ond mae’r meirw ar gynnydd eleni.

“Rydan ni’n fwy agored i niwed nag yr oedden ni wedi tybio,” meddai John Nkengasong, cyfarwyddwr Canolfan Affrica ar gyfer Atal a Rheoli Afiechyd.

Roedd hefyd yn poeni “ein bod yn dechrau normaleiddio marwolaethau” a bod gweithwyr iechyd dan y don.

Pe bai brechiadau ar gael, dywedodd y gallai’r cyfandir frechu 35-40% o’r boblogaeth cyn diwedd y flwyddyn, a 60% erbyn terfyn 2022.