Mae Dirprwy Faer Abermaw yng Ngwynedd wedi dweud wrth golwg360 bod “angen i’r cyhoedd gael dweud eu dweud” cyn bwrw ymlaen â chynlluniau i agor Siop Ryw mewn hen Siop Gigydd yn y dref.

“Mae’r syniad o agor y siop wedi hollti barn ymysg trigolion lleol, gyda chryn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol,” meddai Robert Triggs.

“Yn sicr, mae angen i’r cyhoedd gael dweud eu dweud ar y mater.

“Nid wyf yn hollol siŵr pa mor bositif fyddai’r siop i’r dref, er ei bod hi wastad yn braf gweld siop wag yn cael ei hagor.

“Rydyn ni fel cyngor lleol yn ystyried y cais, ond yn y bôn penderfyniad Cyngor Gwynedd fydd hyn.”

“Positif”

Mae’r cwmni sydd wedi gwneud y cais i gael agor Siop Ryw yn Abermaw wedi dweud y byddai’n beth “positif” i’r dref.

David Powley a Danny Miller yw cyfarwyddwyr DD Trading, y cwmni y tu ôl i’r cais cynllunio i agor siop ‘Eva Amour’ yn 6 Sgwâr St Anne’s.

“Mae yna syniad bod siopau rhyw yn llefydd eithaf amheus, fel yn y 1970au, ond mae’r diwydiant wedi symud ymlaen ers hynny,” meddai David Powley wrth y Cambrian News.

“Rydyn ni’n delio gyda chynnyrch o safon. Dydyn ni ddim yn gwerthu eitemau tacky, ac yn y bôn os nad ydyn ni’n hoffi cynnyrch, dydyn ni ddim yn ei werthu…

“Bydd pobol yn teithio i ddod i’r siop a gobeithio y bydd y bobl hyn yn aros draw ac yn gwario arian mewn mannau eraill yn y dref…

“Bydd y siop yn dod â chyflogaeth leol.”

Proses Ymgynghori Gyhoeddus

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Gallwn gadarnhau bod Gwasanaeth Trwyddedu’r cyngor wedi derbyn cais am drwydded sefydliad rhyw yn 6 Sgwâr Anne, Abermaw.

“Fel sy’n wir am unrhyw gais trwyddedu, mae’n destun proses ymgynghori gyhoeddus sydd ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd tan Fawrth 9.”