Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobl fod yn barod am lifogydd posib yn y canolbarth a’r de, wrth iddyn nhw ddisgwyl iddi hi lawio yn drwm dros y penwythnos.

Ac mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn, ac mae yn debygol y bydd afonydd yn gorlifo a dŵr yn cronni ar wyneb ffyrdd.

Y rhagolygon yw ei bod am fwrw glaw yn sobor iawn o fore Gwener a pharhau felly bron yn gyson tan amser cinio ddydd Sul.

Bydd gweithwyr ymateb brys Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol mewn lleoliadau allweddol, i sicrhau bod amddiffynfeydd a draeniau mewn cyflwr da i atal dŵr rhag tarfu ar gartrefi.

“Gall y tywydd a ragwelir achosi llifogydd yn ne a chanolbarth Cymru felly rydym yn cynghori pobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd a roddir yn eu hardal drwy ein gwefan, sy’n cael ei diweddaru bob 15 munud,” meddai Gary White, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd, o Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid o’r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol i leihau’r risg i gymunedau.

“Gall dŵr llifogydd fod yn beryglus dros ben, ac rwy’n annog pobl i beidio â cheisio cerdded neu yrru drwyddo, oni bai bod y gwasanaethau brys yn cyfarwyddo hynny.”

I gael y rhybuddion diweddaraf am lifogydd, ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd