Mae yna fwy o fwytai prydau bwyd cyflym yng Nghaerdydd – y pen – nag yn unman arall ym Mhrydain.

Dyna mae gwaith ymchwil gan gwmni Fresh Student Living yn ei awgrymu.

Mae yna 30 o fwytai bwyd cyflym am bob 100,000 o bobol yn y brifddinas, o gymharu â 27 yn Newcastle, 26 ym Mirmingham, 14 yng Nglasgow a dim ond 6 yn Sheffield.

Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn dangos mai bwyd cyflym Tsieineaidd yw’r mwyaf poblogaidd ymysg y Cymry, gyda 25% yn ei ddewis fel hoff bryd o’r fath, 19% yn dewis sglod-a-cod, ac 17% yn dewis bwyd Indiaidd.

Fe gynyddodd y gwariant ar fwyd cyflym 50% yn y cyfnod clo cyntaf, gyda phobol yn gwario £20 y mis ar gyfartaledd.

Ac mae rhagolygon y bydd pobol gwledydd Prydain yn gwario £11 biliwn ar brydau bwyd cyflym eleni.