Mae dau ddegawd wedi mynd heibio ers i argyfwng traed a’r genau daro’r wlad ac mae Bob Parry, a oedd yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru [FUW] ar y pryd, wedi rhannu ei atgofion o’r cyfnod “trychinebus” hwnnw.
Erbyn diwedd yr argyfwng, byddai miliwn o anfieliaid fferm wedi eu difa – er mwyn atal lledaeniad y clwy – gan effeithio ar amaethwyr ym mhob cornel o Gymru.
Tra’n cynrychioli’r undeb mewn trafodaethau gyda gweinidogion amaeth ym Mrwsel y clywodd Bob Parry am yr achos cyntaf yng Nghymru.
“Mi ddois i lawr allan o’r awyren, a dyma alwad gan y Western Mail yn gofyn a oeddwn i’n gwybod lle oedd yr achos yn Sir Fôn,” cofia.
“Mi wnaeth fy nghalon i dro… y peth cynta’ sydd yn dod i’r meddwl, yn naturiol, oedd y fferm gartref.”
Cafodd wybod ychydig wedyn mai mewn lladd-dy yng Ngaerwen, chwe milltir o’r fferm deuluol, oedd y clwy wedi ei ganfod.
O Fôn i Gaerdydd i Stryd Downing
Oherwydd prysurdeb ei waith gydag undeb yn ystod y cyfnod, penderfynwyd trosglwyddo’r gwaith ar y fferm deuluol i’w fab, gan fod cymaint o waith i’w wneud i frwydro dros y diwydiant amaethyddol.
“Dyna’r cyfnod prysuraf dw i wedi ei gael erioed,” meddai Bob Parry.
“Mi’r oedd yn rhaid i mi ddreifio mwy na wnes i erioed yn fy oes – i fyny ac i lawr o Gaerdydd. A gan mai dim ond rhai agweddau o amaeth oedd wedi eu datganoli, roedd rhaid mynd i Lundain hefyd.
“Beth oedd yn fy ngwylltio i oedd cael gwybod am bump i chwech o’r gloch y nos bod rhaid bod yn Llundain am wyth y bore wedyn – a phan rydych chi’n byw yn Sir Fôn, mae’n golygu gyrru lawr i Gaerdydd a dal trên o fanno.”
Yn ystod y cyfnod bu’n ymwelydd cyson gyda Stryd Downing, gan fynychu sawl cyfarfod gyda’r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair.
“Mi’r oedd hi’n gyfnod mor brysur bu rhaid i ni gael cyfarfod gyda Tony Blair dros frecwast un tro,” cofia.
“Ymhen wythnos roedd penderfyniadau yn dechrau cael eu gwneud, ond dylid fod wedi rhoi stop ar symud anifeiliaid yn syth ar ôl yr achos cyntaf yn y lladd-dy yn ne Lloegr.
“Oherwydd pe baen nhw wedi gwneud hynny, dw i ddim yn credu y byddai [y clwy] wedi cyrraedd Sir Fôn.
“Mae yn ddigon hawdd sbïo nôl wrth gwrs a gweld bai, ond pan oeddech chi yn ei ganol o mi’r oedd hi’n anodd iawn ar rai o’r gweinidogion yng Nghaerdydd.”
‘Ffodus iawn o gefnogaeth Carwyn Jones’
Un o’r Gweinidogion hynny a fu’n ganolog i’r ymdrechion yng Nghymru oedd y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, a oedd ar y pryd newydd ei benodi yn Weinidog dros Amaeth a Materion Gwledig cyntaf Llywodraeth Cymru.
“Mi’r oedden ni’n ffodus iawn o gefnogaeth Carwyn Jones, ac mi ddeallodd lawer am amaethyddiaeth yn sydyn chware teg,” meddai Bob Parry.
“Doedd ganddo ddim cefndir amaethyddol o gwbl, ond mi’r oedd o’n adnabod anifeiliaid fferm yn well na rhai gweinidogion yn Llundain – doedd ganddyn nhw ddim syniad!
“Mi’r oedd o yn ymgynghori gyda ni [FUW] a’r NFU yn ddyddiol wrth ddelio â’r mater a chwilio am lefydd i ddifa’r anifeiliaid.
“Mi’r oedden ni’n ffodus ohono gan ei fod yn fodlon gwrando arnom ni’r ffermwyr oedd yn gwybod beth oedd y sefyllfa ar lawr gwlad.”
Yn y pen draw, penderfynodd Gweinidogion yn Llundain i atal symud anifeiliaid er mwyn atal y clwy rhag lledu.
“Mi’r oedd hwnnw yn gyfnod trychinebus,” cofia Bob Parry.
“Gan fod hi’n gyfnod wyna, mi oedd yna anifeiliaid mewn llefydd nad oedden nhw i fod neu ar dir oedd ymhell o’r ffarm, ac wrth gwrs doedd ffermwyr ddim eisiau mynd yno rhag cario’r clwy yn ôl i’r ffermydd.”
“Roedd y cyfnod wedi fy mlino cymaint”
Bu Bob Parry yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru rhwng 1990 a 2003, ac wrth edrych yn ôl mae’n cydnabod i’r clwy effeithio’n fawr arno.
“Fyswn i wedi cario ymlaen, ond roedd y cyfnod wedi fy mlino cymaint.
“Ar ôl cyfnod clwy’r traed a’r genau mi gymerodd flynyddoedd i mi ddod nôl ataf fi fy hun, i ddweud y gwir.
“Mi’r oedd hi’r un fath i Huw Richards, Llywydd NFU. Mi’r oedd yna gydweithio da rhwng yr undebau, ac yna sylweddoli bod rhaid i ni roi’r diwydiant amaeth o flaen polisïau’r undebau unigol.”
Dal i boeni…
Ond mae Bob Parry yn pryderu o hyd y gallai mewnforio cig o wledydd heb reolau llym adael i’r clwy ddod yn ei ôl i Gymru.
“Tasa fo’n torri allan rŵan dw i’n credu mai’r peth cyntaf byddai’r Llywodraeth yn ei wneud byddai cau i lawr yn syth.
“Ond yr achos cyntaf o’r clwy traed ar genau i mi glywed am, flynyddoedd cyn 2001, oedd o gig o Frasil, a dw i yn pryderu bod y Llywodraeth yn fodlon mewnforio cig o bob gwlad lle nad oes yr un safonau a’r un rheolau mewn lle.”