Mae myfyrwyr nyrsio o Sir Benfro wedi codi £2,400 i gefnogi eu cleifion.

Roedd y myfyrwyr sy’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn awyddus i roi help llaw ar ôl clywed pa mor anodd oedd hi i gleifion gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd wedi i’r pandemig atal ymweliadau ag ysbytai.

Aeth y grŵp o fyfyrwyr nyrsio sydd yn eu blwyddyn gyntaf ati i geisio codi £1,000 i brynu iPads ychwanegol i Ward Sunderland yn Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro cyn chwalu eu targed a chasglu mwy na £2,400 drwy gynnal raffl o eitemau a gwasanaethau a roddwyd gan gwmnïau lleol.

Mae Shannon John, Ruth Morgan, Lisa Prest, Shanice Riley, Anna Griffiths ac Aneesah Akbar i gyd yn wreiddiol o Sir Benfro, ac yn astudio ar Gampws Dewi Sant Prifysgol Abertawe.

Mae’r chwe myfyrwraig yn wreiddiol o Sir Benfro

“Dim ond cwpl o iPads oedd ar y ward ac roedd yn rhaid eu rhannu ymhlith y cleifion,” meddai Shannon John.

“Felly, gwnaethom benderfynu gwneud rhywbeth am y sefyllfa. Rydym yn dîm da ac rydym wedi cydweithio’n dda i roi’r cynllun hwn ar waith.

“Yn y diwedd, llwyddom i gynnal raffl ar-lein a chynnig oddeutu 30 o wobrau gwych.

“Roeddem am roi help llaw gan fod rhai cleifion wedi methu cysylltu â’u teuluoedd ers dechrau’r pandemig ac roeddem yn hapus y gallem wneud rhywbeth ymarferol.

“Roeddem wrth ein boddau ein bod wedi cael ymateb mor wych.”

Derbyniwyd £500 hefyd gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i gefnogi’r ymgyrch.

‘Gwaith heriol a hollbwysig’

Mae’r myfyrwyr wedi cael argraff fawr ar Jayne Cutter, Pennaeth Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae gradd mewn nyrsio yn heriol ac mae pwysau mynd ar leoliadau gwaith yn ystod y pandemig yn anferth,” meddai.

“Mae’r ffaith eu bod wedi dangos y fath dosturi yn dweud cyfrolau am eu gwerthoedd ac rwy’n siŵr y byddant yn ased gwerthfawr i’r proffesiwn.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae cynnydd o 20% wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n ymgeisio am lefydd ar gyrsiau nyrsio yng Nghymru.

“Gall cefnogaeth teulu a ffrindiau wneud gwahaniaeth anferth i les cleifion ac amser ymwelwyr yw uchafbwynt eu diwrnod,” ychwanegodd Jayne Cutter.

“Mae’r iPads bellach wedi cael eu prynu ac maent yn cael eu defnyddio, gan alluogi cleifion i gysylltu â’u hanwyliaid, sy’n hollbwysig.

Mae’r myfyrwyr hefyd wedi cynllunio gweithgareddau eraill i godi arian yn ystod y flwyddyn i ddod.

Cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n ymgeisio am lefydd ar gyrsiau nyrsio

Ond llai yn ymgeisio i fod ar gyrsiau yng Nghymru na gweddill gwledydd Prydain