Mae Eryl Owain, o Ymgyrch Hanes Cymru, wedi dweud wrth golwg360 nad yw Hanes Cymru’n “cael digon o sylw” yn y cwricwlwm addysg newydd – a bod angen “mwy o ganllawiau, a mwy o arweiniad ar ysgolion”.
Mae’r Ymgyrch yn galw drachefn am sicrhau bod Hanes Cymru’n gorfod cael ei ddysgu yn ysgolion y wlad.
Dan gynlluniau presennol, bydd disgyblion yn cael eu hannog i ddysgu am eu hardal eu hunain – neu eu ‘cynefin’.
Dadl y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ydi fod angen dysgu hanes y wlad trwy bopeth, yn union fel y bydd dysgu am hanes pobloedd o gefndiroedd ethnig gwahanol.
Ond roedd yr AoS Siân Gwenllïan wedi cynnig gwelliannau mewn pwyllgor, gan rybuddio gallai’r cwricwlwm newydd arwain at ‘loteri cod post’ ac anghydraddoldebau os nad yw Hanes Cymru yn cael ei gynnwys fel elfen orfodol.
Ond gwrthod wnaeth Llywodraeth Cymru unwaith eto.
“Heb y gwelliannau yr wyf i yn eu cynnig heddiw, ni fydd modd rhoi cysondeb a sicrwydd y bydd bob plentyn yng Nghymru yn cael y profiad o ddysgu am hanes cyfoethog ac amrywiol ein gwlad ni,” meddai Siân Gwenllïan wrth gyflwyno’r gwelliant a wrthodwyd.
“Bydd sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn cael dysgu am ddigwyddiadau hanesyddol allweddol o arwyddocâd cenedlaethol yn eu helpu nhw i ddod yn ddinasyddion gwybodus gyda gwybodaeth ddiwylliannol a gwleidyddol hanfodol.”
Wrth egluro ei gwrthwynebiad i’r gwelliant, dywedodd Kirsty Williams nad oedd hi am “beryglu a chyfyngu cyfraniad Cymru i un pwnc”.
“Dw i am weld a sicrhau, yn unol â’r côd materion, y caiff y meysydd hyn eu cwmpasu ar draws y cwricwlwm,” meddai.
Awgrymodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ym mis Tachwedd 2019 y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad gan Estyn o gynnwys a safon addysg hanes mewn ysgolion.
Angen “mwy o ganllawiau” a “mwy o arweiniad”
Er bod Eryl Owain yn cydnabod fod y cwricwlwm addysg newydd yn “gwricwlwm unigryw i Gymru”, mae’n dweud nad yw hanes Cymru’n cael “sylw digonol”.
“Dyw Hanes Cymru heb gael ei ddysgu’n gyson yn ysgolion Cymru, ac fe wnaeth adroddiad Dr Elin Jones yn 2013 ddangos bod llawer iawn o ysgolion yn dysgu mwy am hanes Lloegr na Chymru,” meddai wrth golwg360.
“Mae yno ddiffyg cysondeb yn ysgolion Cymru, a dyw Hanes Cymru ddim yn cael sylw digonol… oherwydd hynny mae’n rhaid mynd i’r afael a hyn.
“Mae yno ddatganiadau niferus sy’n dweud y dylai Hanes Cymru fod yn graidd i’r cwricwlwm yn wyneb y diffyg yna yn y gorffennol.
“Mae angen bod yn fwy penodol a chlir, a dyna pam rydyn ni’n galw am ddynodi corff cyffredin o wybodaeth i ddysgu Hanes Cymru mewn ysgolion yng Nghymru.”
Ac yn wir, mae yno gefnogaeth eang i’r syniad hwn, gyda dros 5,000 o bobol yn arwyddo deiseb yn galw am sefydlu corff cyffredinol.
Ychwanegodd Eryl Owain “Y broblem sydd ganddyn nhw [Llywodraeth Cymru] ydi fod y cwricwlwm newydd yn rhoi rhyddid i ysgolion i lunio meysydd llafur ei hunain.
“Mae angen mwy o ganllawiau, mwy o arweiniad ar ysgolion a fyddai’n rhoi’r sylfaen yna.
“Mae yno beryg y gall hanes Cymru gael ei gyflwyno drwy enghreifftiau lleol, yn hytrach na chyflwyno’r hanes yn ei gyfanrwydd a rhoi gwell syniad o sut mae’r genedl wedi datblygu ar hyd y canrifoedd.
“Byddai dynodi corff cyffredin yn caniatáu hen ddigon o ryddid i athrawon, a ni fyddai’n gosod cwricwlwm caeth.
“Mae’r Gweinidog Addysg yn teimlo bod y datganiadau cyffredinol sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd Hanes Cymru sydd yno ar hyn o bryd yn ddigonol.
“Ond mi ddaru ymchwiliad gan y Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu awgrymu yn union beth mae Siân Gwenllian yn ei gynnig yn ei gwelliant.
“Derbyniodd Kirsty Williams 14 o 15 o argymhellion a roddwyd iddi, gan wrthod sefydlu corff cyffredinol yn unig.
“Felly mae yna sail i hyn, oherwydd mae ymchwiliad manwl wedi ei gynnal ac maen nhw wedi ymgynghori’n gyhoeddus.
“Dw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn yr argymhelliad i sefydlu corff cyffredinol.”
Ond pan ofynnodd golwg360 iddo a oedd o’n ffyddiog y byddai hyn yn digwydd, “nac ydw” oedd yr ateb.
Mae golwg360 wedi gofyn i Llywodraeth Cymru am ymateb.