Mae galwadau cynyddol ymhlith gwleidyddion a pherchnogion busnes i roi blaenoriaeth i oroesiad y sector lletygarwch.
Heddiw (Chwefror 18), mae llefarydd Trysorlys Plaid Cymru, Ben Lake AS, wedi annog y Canghellor, Rishi Sunak, i ymestyn y cynllun ffyrlo a chadw’r gyfradd Terth Ar Werth is ar gyfer y sector hyd at fis Mawrth 2022.
Hefyd, mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, Amanda Jenner, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yr Economi Cymru, Ken Skates, i leisio pryderon.
“Bydd cannoedd o swyddi mewn tafarndai, bariau, gwestai a bwytai ledled Ceredigion mewn perygl pan ddaw sawl rhaglen gymorth i ben y Gwanwyn hwn,” meddai Ben Lake AS, Llefarydd Trysorlys Plaid Cymru.
“Mae’r effaith economaidd yn debygol o gael ei theimlo am flynyddoedd i ddod, gyda busnesau’n wynebu dyled a threthi cynyddol.
“Felly, rwy’n annog y Canghellor i osod rhaglen ad-dalu gynaliadwy ar gyfer busnesau lletygarwch, er mwyn caniatáu taliadau cyfnewidiol dros gyfnod o amser, yn hytrach na chyfandaliadau.
“Mae’r pandemig wedi bod yn hunllef i’r mwyafrif o fusnesau – ond mae’r diwedd o fewn golwg.
“Ni allwn fforddio aberthu llwyddiannau’r misoedd diwethaf trwy ddod â chymorth ariannol hanfodol ar gyfer busnesau bach ledled Ceredigion i ben yn gynamserol.”
“Dod allan ohono fo yn gryfach”
I nifer o berchnogion busnes, byddai cynnal y rhyddhad Treth ar Werth a’r cynllun ffyrlo am gyfnod estynedig yn darparu rhywfaint o sicrwydd i’w dyfodol ac yn rhoi’r cyfle a’r hyder i’r diwydiant adfer yn sgil effeithiau’r pandemig.
“Mae’r gefnogaeth yma mor bwysig,” meddai Deborah Sagar, perchennog siop a chaffi Bonta Deli yng Nghaernarfon.
“… er mwyn sicrhau goroesiad busnesau ac i bobl gael y sicrwydd bod modd iddyn nhw gynnal eu staff ac i staff wybod bod ganddyn nhw swydd i ddod yn ôl iddi.
“Mae’r sector lletygarwch yn rhan mor annatod o’n cymunedau ni – rydyn ni eisiau i bawb oroesi’r cyfnod yma, a dod allan ohono fo yn gryfach ac yn fwy penderfynol nag erioed.
“Wrth gerdded o amgylch y dref, mae hi mor dawel ac mewn un ffordd mae hynny’n beth da – am fod pobol yn gwrando ac yn aros adref, ond mae o’n drist ofnadwy hefyd.
Teimla Deborah fod y diwydiant angen amser i sefydlogi yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd, cyn bod modd ail-edrych ar ddiwygio unrhyw gymorth ariannol.
“Mae’n hanfodol galluogi’r sector lletygarwch i ail-agor cyn gynted â phosibl – pan fod hi’n sâff i wneud hynny.
“Er lles y bobl leol hefyd, byddai gallu mynd allan a chael sgwrs yn yr haul neu’r tu allan i’r dafarn yn wych,” meddai.
“Mae’r cyfnod clo diwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl.”
“Mae hi ddigon anodd fel mae hi“
“Dyma un o’r diwydiannau sydd wedi eu heffeithio fwyaf, ynghyd a’r diwydiant creadigol,” meddai Sara Beechey, perchennog Yr Hen Lew Du, Aberystwyth.
Rhybuddiodd y byddai unrhyw newidiadau cynamserol i’r cynllun ffyrflo yn golygu y byddai rhaid iddynt “edrych eto ar y busnes.”
Er bod y perchennog busnes yn croesawu’r gostyngiad ar gost Treth ar Werth, dywedodd bod talu y gyfradd is o 5% yn anodd ar hyn o bryd.
“Os ydyn nhw’n gallu cadw lan y gefnogaeth ariannol i ni wedi cael, dwi o’r farn dylai nhw ein cadw ni ar gau er mwyn dod dros y darn diwethaf yma a gwneud yn siŵr bod ni’n gallu agor yn ddiogel.
“Mae’r agor a chau yn gostus a dyna be rydyn ni’n gweld sydd fwyaf stressful i fod yn onest – yr agor a’r cau a newid rheolau – ac yn aml ar fyr rybudd.
“O ran mental health pobol o fewn y diwydiant – doedd hynny ddim yn grêt.
“Mae hi ddigon anodd fel mae hi.”
“Does yna neb yna i roi stop arna chdi yn tŷ”
Mae Dewi Siôn, perchennog dwy dafarn ym Methesda o’r farn y gall y Llywodraeth fod yn mynd gam ymhellach i’w cefnogi.
“Nid da lle gelli’r gwell!” meddai.
“Y broblem ti am gael ydi pan ti’n agor, os oes gen ti staff sy’n cael hyn a hyn o oriau’r wythnos – ella fedri di ddim rhoi’r oriau yna iddyn nhw.
“Felly mae’r ffyrlo yn rhoi’r top up yna iddyn nhw.
“Dwi’n bersonol wedi dweud erioed mai’r peth pwysicaf i wneud hefo’r sector lletygarwch – mae o’n syml iawn – mae 50% o sales cwrw yn off-licence sale ond mae’r duty ar gwrw siop a chwrw pub yr un fath.
“… sydd hefyd yn un o’r uchaf yn Ewrop. Yn fy marn i, mae angen lleihau hynny i dafarndai a chodi fo i siopau – fysa hynny’n gwneud lot o wahaniaeth.
“Mae pobol yn dechrau mynd yn rhy gyffyrddus rŵan yn ista’n tŷ yn yfed, sy’n beth peryg – does yna neb yna i roi stop arna chdi yn tŷ,” meddai.