Mae cynnydd o 20% wedi bod yn nifer y myfyrwyr sydd yn ymgeisio am lefydd ar gyrsiau nysrio yng Nghymru.
Yn ôl ffigurau gan UCAS roedd 2,720 wedi ymgeisio ar gyfer cyrsiau nyrsio yng Nghymru yn 2020 – cynyddodd y ffigwr yma i 3,270 yn 2021, sy’n gynudd o oddeutu 20%.
Ond mae’r ganran yn parhau i fod yn is na gweddill gwledydd Prydain: gwelwyd cynnydd o 35% yn Lloegr, 27% yn yr Alban a 26% yng Ngogledd Iwerddon yn ystod yr un cyfnod.
Dylanwad y pandemig
Wrth ymateb i’r twf mewn ceisiadau nyrsio UCAS, dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, fod angen mwy o nyrsys yng Nghymru o hyd.
“Er mwyn darparu gofal diogel, effeithiol ac o ansawdd da, mae angen dybryd am fwy o nyrsys ar Gymru, felly rwy’n falch o weld cynnydd yn nifer y ceisiadau nyrsio eleni,” meddai.
“Mae’n sicr bod y diddordeb cynyddol hwn mewn nyrsio fel gyrfa wedi cael ei ysbrydoli gan y gweithwyr nyrsio proffesiynol dewr ac ymroddedig sy’n gweithio ar reng flaen pandemig COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon: rhaid cofio nad yw pob cais nyrsio yn golygu lle ar gwrs nyrsio. Hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, roedd 1,600 o swyddi nyrsys cofrestredig gwag yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru yn unig.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru y dylai buddsoddi yn y proffesiwn nyrsio a chefnogi darpar fyfyrwyr fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru.