Mae heddiw (Chwefror 17) yn dynodi 45 mlynedd ers cychwyn Operation Julie, sef un o ymgyrchoedd gwrthgyffuriau fwyaf y byd.

Ar 17 Chwefror 1976, cafwyd cyfarfod yn Aberhonddu a oedd yn cynnwys nifer o brif gwnstabliaid ac uwch swyddogion sgwadiau cyffuriau. Dyma oedd dechrau Operation Julie.

Roedd yr ymgyrch yn cynnwys 800 o swyddogion o 10 llu gwahanol ac yn gyfrifol am ddiweddu dau rwydwaith LSD, gyda chysylltiadau yng Ngheredigion a Phowys yn ystod y 1970au.

Mewn cymunedau tawel yng nghefn gwlad Cymru, treuliodd swyddogion cudd eu hamser wedi’i gwisgo fel hipis ac, o ganlyniad, cafodd 120 o bobl eu carcharu.

Er hynny, mae’r awdur Lyn Ebenezer wedi rhybuddio bod y ffin rhwng “chwedl a ffaith” wedi eu cymysg dros y blynyddoedd ac wedi arwain at gamargraff ynglŷn â llwyddiant yr ymgyrch.

“Llanddewibrefi oedd prifddinas yr hipis!”

Ar y pryd, roedd Lyn Ebenzer yn gweithio fel newyddiadurwr ac ers hynny mae wedi ysgrifennu llyfr ar y pwnc, Operation Julie: The World’s Greatest LSD Bust.

“Mae hi’n stori mor anhygoel!” meddai’r awdur, “byddai neb wedi breuddwydio bod y fath beth wedi digwydd!

“Mewn dinas fel Caerdydd fel Abertawe, efallai na fyddai neb yn meddwl ddwywaith, ond i ddigwydd yng nghefn gwlad fel hyn, o dan drwyn bobl!”

Er hynny, wrth edrych yn ôl dywedodd bod mewnfudiad diddorol wedi digwydd yn ystod y cyfnod – pobl oedd yn cael eu hystyried i fod yn ‘hipis’.

“Fyddwn i’n dweud mai Llanddewi Brefi oedd prifddinas yr hipis!” meddai, “a’r syndod mwyaf yw bod y gymuned leoli wedi’u derbyn nhw.”

Cafodd yr ymchwiliad lleol ei sbarduno ar ôl i un o arweinwyr y cylch cyffuriau, Richard Kemp, gael damwain car a bu i’r heddlu ganfod darn o bapur yn cynnwys rysáit i gynhyrchu LSD.

“Chwedl a ffaith wedi cymysgu” 

Wedi dwy flynedd o ymchwilio, cafodd 120 o bobl eu harestio a’u dedfrydu i gyfanswm o 120 o flynyddoedd dan glo.

Er hynny, mae Lyn Ebenzer o’r farn fod “chwedl a ffaith wedi cymysgu” dros y blynyddoedd, sydd wedi arwain at gamargraff o ba mor llwyddiannus oedd yr ymgyrch.

“Y twyll mwyaf,” eglura “oedd bod yr argraff wedi’i greu bod LSD wedi cael ergyd farwol drwy Operation Julie.”

Er ei fod yn cydnabod bod yr ymgyrch wedi achosi i gost ‘tab’ LSD i gynyddu dros nos, dywedodd mai byrhoedlog oedd yr effaith hwnnw.

“Erbyn diwedd yr achos llys, roedd e nôl i’r un pris ag yr oedd e – natho nhw ddim datrys y broblem o ‘gwbl,” meddai.

“A’r cwestiwn oni’n ofyn fwy na dim adeg hynny, oedd pam gwario miliynau i ddal pobl oedd yn cynhyrchu a gwerthu LSD a dim byd yn cael ei wneud ynglŷn â heroin?”

Dros y blynyddoedd, mae sawl llyfr wedi’i gyhoeddi yn trafod y pwnc ac yn lled-ddiweddarach, mae cwmni cynhyrchu ffilmiau o Lundain wedi creu ffilm gomedi yn seiliedig ar yr hanes.

Ymateb cymysg gan drigolion Llanddewibrefi i ffilm am Operation Julie

Mae cwmni cynhyrchu o Lundain am greu ffilm am y ffatri LSD

Stori achos cyffuriau Operation Julie am gael ei throi’n ffilm gomedi

Y cynhyrchwyr o Lundain yn gobeithio cynnwys y Gymraeg “mewn rhai golygfeydd”