Mae gwleidydd o Blaid Cymru wedi cael gorchymyn i ymddangos yn y llys wedi iddi aildrydar sylwadau “amhriodol iawn” ar y cyfryngau cymdeithasol am achos llofruddiaeth.
Rhannodd Helen Mary Jones AoS, neges Twitter a ysgrifennwyd gan ymgyrchydd yn erbyn cam-drin domestig a fynegodd “obaith” y byddai rheithgor yn cael dyn yn euog o lofruddio ei wraig.
Roedd y trydariad, a bostiwyd ddydd Sadwrn ac a rannwyd gan Ms Jones yr un diwrnod, yn ymwneud ag achos Anthony Williams, 70, a laddodd ei wraig Ruth, 67, bum niwrnod i mewn i’r cyfyngiadau clo, ar 28 Mawrth y llynedd.
Dywedodd y neges, a ysgrifennwyd ochr yn ochr ag erthygl gan y BBC am yr achos: “Troseddwr arall yn defnyddio’r [esgus] ‘I just snapped’. Mae’n bwlsh*t llwyr! Fel y gwyr cynifer ohonom, byddai hanes o gam-drin domestig.
“Rwy’n gobeithio y bydd y rheithgor hwn yn ei gael yn euog o lofruddiaeth.
“Gorffwys mewn hedd, Ruth.”
Dim ond yn awr y gellir rhoi gwybod am y mater ar ôl i’r cyfyngiadau adrodd gael eu codi ddydd Mercher.
Gofyn am ANI
Mae Ms Jones, sy’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd, yn adnabyddus am ei gwaith ymgyrchu dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Ysgrifennwyd y trydariad gan Rachel Williams, ymgyrchydd amlwg yn erbyn trais domestig ac arloeswr gyda’r cynllun Gofyn am ANI (sef Action Needed Immediately).
Mae Ms Williams hefyd wedi cael gorchymyn gan y Barnwr, Paul Thomas, i ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
Fe wnaeth hi ddileu’r trydariad ddydd Llun ar ôl i swyddogion Heddlu Gwent gysylltu â hi ar gyfarwyddyd y barnwr.
Ni chlywyd unrhyw dystiolaeth yn ystod yr achos bod gan y diffynnydd hanes o gam-drin domestig.
Yng Nghymru a Lloegr, bwriedir i reithgor benderfynu ar sail y dystiolaeth a glywir yn y llys, a dywedir wrthynt am anwybyddu unrhyw wybodaeth neu sylwebaeth o ffynonellau allanol, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan amddiffynnydd hawl i achos teg, a gallai unrhyw beth sy’n creu risg ddifrifol o beryglu achos teg arwain at atal neu ddileu’r achos.
Mae Deddf Dirmyg Llys yn ei gwneud yn drosedd cyhoeddi unrhyw beth a allai ragfarnu neu rwystro achos.
“Amhriodol iawn”
Cafodd y trydariad ei bostio ar ôl i’r rheithgor yn yr achos llofruddiaeth ohirio eu trafodaethau am y penwythnos.
Ar ôl dychwelyd i’r llys ddydd Llun, tynnodd y Barnwr Paul Thomas eu sylw at sylwebaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud: “Mae wedi dod i’m sylw bod rhai sylwadau amhriodol iawn wedi’u gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol am yr achos hwn dros y penwythnos.
“Dylwn ei gwneud yn gwbl glir nad yw’r sylwadau hynny wedi dod gan unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r achos ac, ar ôl cael dangos cynnwys un darn o gyfryngau cymdeithasol o’r fath, mae’n amlwg nad oes ganddynt unrhyw syniad am y dystiolaeth yn yr achos hwn na’r materion yn yr achos hwn.”
Dywedodd y barnwr wrth yr erlynydd, Matthew Roberts, bod trais domestig “yn bla ofnadwy”, ond ychwanegodd bod “dull un ateb sy’n addas i bawb yn amhriodol iawn, yn enwedig yn yr achos hwn”.
Wrth annerch yr erlyniad a’r amddiffyn, dywedodd y Barnwr Thomas: “Bydd yr achos yma o’m blaen ddydd Iau. Bydd yn rhaid i’r rhai sy’n rhan o hyn sicrhau eu bod ar gael ddydd Iau, a dylid dweud hynny wrthynt ar unwaith.”
Ni ddywedodd unrhyw aelodau o’r rheithgor eu bod wedi gweld y negeseuon Twitter, ac aethant ati i ailddechrau eu trafodaethau cyn dod cael Williams yn ddieuog o lofruddiaeth brynhawn Llun.
Bydd yn cael ei ddedfrydu am ddynladdiad oherwydd cyfrifoldeb lleiedig ddydd Iau wedi iddo bledio’n euog i hynny’n flaenorol.
Ym mis Rhagfyr, ymddiheurodd Helan Mary Jones am aildrydar neges a oedd yn cymharu’r gwahaniaethu a wynebir gan y gymuned drawsryweddol a’r Holocost – bu iddi gydnabod bod hyn wedi “achosi poen i lawer”.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru “nad yw’n briodol i’r Blaid wneud sylw” am ei gwŷs i’r llys.
Cadarnhaodd Ms Williams ei bod hithau hefyd wedi cael gorchymyn gan y barnwr i fynychu’r llys ddydd Iau, ond gwrthododd wneud sylw.