Mae dyn 70 oed o Gwmbrân wedi’i gael yn ddieuog o lofruddio’i wraig ar ôl iddo ei thagu yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Dywedodd Anthony Williams wrth yr heddlu ei fod e “wedi tagu’r bywyd allan” o’i wraig Ruth, 67, ar Fawrth 28 y llynedd ar ôl cael pwl o iselder a gorbryder a’i fod e wedi methu â chysgu yn y dyddiau cyn y digwyddiad.

Roedd e’n poeni am redeg allan o arian am nad oedd e’n gallu mynd i’r banc oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, meddai.

Fe gyfaddefodd ei fod yn gyfrifol am farwolaeth ei wraig, gan ddweud iddo golli ei dymer yn y gwely a’i fod e wedi rhoi ei ddwylo am ei gwddf wrth iddi geisio ei bwyllo.

Dywedodd iddo gwrso’i wraig i lawr y grisiau a’i dal gerfydd ei gwddf unwaith eto wrth iddi geisio agor y drws i ddianc.

Cafwyd hyd i’w chorff yng nghyntedd eu cartref ag allweddi yn ei llaw ac er iddi gael ei chludo i’r ysbyty, roedd hi wedi marw ar ôl cael anafiadau difrifol i’w llygaid, ei hwyneb a’i cheg, ac roedd hi wedi torri ei gwddf mewn pum lle.

Cafodd Anthony Williams ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac fe ymddiheurodd wrth yr heddlu gan ddweud iddo golli ei dymer.

Tystiolaeth eu merch

Dywedodd eu merch Emma, 40, nad oedd ei rhieni fel arfer yn dadlau a’u bod nhw’n treulio 90% o’u hamser gyda’i gilydd.

Dywedodd nad oedd hi erioed wedi eu clywed yn codi llais ar ei gilydd, a bod ei thad yn “gawr addfwyn”.

Ond dywedodd iddo weld ymddygiad rhyfedd ganddo ers mis Ionawr y llynedd, a’i fod yn dechrau poeni am golli eu cartref a bod diffodd goleuadau a gwres er mwyn arbed arian wedi mynd yn obsesiwn.

Serch hynny, dywedodd fod ganddyn nhw fwy na £160,000 yn y banc yn y dyddiau cyn y cyfnod clo.

Dywedodd bod ei thad yn gwylio’r newyddion yn rheolaidd a’i fod yn credu na fyddai neb yn cael gadael eu cartrefi eto.

Clywodd y llys nad oedd e wedi bod yn ymdopi â’i fywyd ers iddo ymddeol o’r gwaith mewn ffatri yng Nghwmbrân, ac nad oedd ganddo fe na’i wraig fawr o fywyd cymdeithasol.

Ond dywedodd fod ei wraig yn “hapus” ers iddi hithau ymddeol o weithio mewn archfarchnad rai blynyddoedd yn ôl, er ei bod hi hefyd yn dioddef o iselder.

Dywedodd mai’r unig dro y bydden nhw’n ffraeo oedd pan oedd yntau’n “ddiog” am beidio â gwneud gwaith o amgylch eu cartref.

Dywedodd dau seicolegydd fod y cyfnod clo wedi cael effaith sylweddol ar ei iechyd meddwl, a bod ei waith wedi bod yn ffordd o ymdopi iddo ers peth amser.

Ond dywedodd seicolegydd arall nad oedd hanes o iselder ar ei gofnodion meddygol a’i fod yn “gwybod beth oedd e’n ei wneud” adeg yr ymosodiad ar ei wraig.

Fe ddaeth y rheithgor i gasgliad unfrydol yn Llys y Goron Abertawe nad oedd e’n euog o lofruddio’i wraig, ac roedd e eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad trwy gyfrifoldeb lleihaedig.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau (Chwefror 18).