Mae rapiwr o Gatalwnia wedi cael ei arestio am gyfansoddi caneuon sy’n beirniadu Llywodraeth Sbaen.

Aeth yr heddlu i Brifysgol Lleida fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 16), lle mae Pablo Hasél a’i gefnogwyr wedi bod yn protestio yn erbyn y gorchymyn i’w arestio.

Mae e eisoes wedi’i ddedfrydu i ddwy flynedd a naw mis o garchar ar ôl i lys ei gael yn euog o droseddau brawychol.

Roedd e’n mynnu pan gafodd y gorchymyn i’w arestio ei gyhoeddi na fyddai’n ildio i’r heddlu ac y byddai’n rhaid iddyn nhw ei “gipio” fe oddi ar safle’r brifysgol i’w gael i’r ddalfa – roedd ganddo fe ddeng niwrnod i ymateb i’r gorchymyn.

Roedd ei gefnogwyr wedi codi gwarchae i’w ddiogelu fe a nhw rhag yr heddlu ac fe wnaethon nhw gysgu’r nos y tu ôl i’r gwarchae cyn i’r heddlu fynd yno.

Cawson nhw a’r wasg eu symud oddi yno cyn i’r heddlu ei arestio.

Mae disgwyl i wleidyddion Catalwnia ddeddfu er mwyn sicrhau na all achosion o’r fath godi eto yn y wlad.