Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (yr IOPC) wedi dweud ei bod wedi cyflwyno hysbysiad camymddwyn i un o swyddogion yr heddlu mewn perthynas ag arestio Mohamud Hassan.

Dywedodd yr IOPC ei bod yn ymchwilio i weld a fethodd y swyddog â throsglwyddo cwynion Mr Hassan am gael ffit a bod mewn poen i staff y ddalfa ar ôl cyrraedd gorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Cafodd Mr Hassan ei arestio yn ei gartref yng Nghaerdydd ar noson Ionawr 8 ar amheuaeth o dorri’r heddwch ond cafodd ei ryddhau y bore canlynol yn ddi-gyhuddiad.

Cafodd ei ganfod yn farw yn ei eiddo yn ddiweddarach ar 9 Ionawr, gyda’i deulu’n honni ei fod wedi dioddef ymosodiad tra’i fod yn y ddalfa.

Cyfeiriwyd y mater gan Heddlu De Cymru at yr IOPC ar gyfer ymchwiliad annibynnol.

Cafodd marwolaeth Mr Hassan gryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda Black Lives Matter Caerdydd a’r Fro yn galw am ymchwiliad “cyflym a thryloyw”, ac felly hefyd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Cafodd galwadau ymgyrchwyr am gyhoeddi fideo teledu cylch cyfyng a chamera corff yr heddlu eu gwrthod rhag ofn y bydd eu hangen ar gyfer achosion troseddol, achosion camymddwyn neu gwest.

Yn dilyn ei farwolaeth, bu cannoedd o bobol yn protestio y tu allan i orsaf yr heddlu yn y brifddinas.

Yr wythnos ddiwethaf (nos Fawrth, Chwefror 9), cafodd gwylnos ei chynnal tu allan i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd wrth i deulu Mohamud Hassan nodi mis ers iddo farw.

Datganiad yr IOPC

Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC heddiw (15 Chwefror): “Mynychodd y swyddog gyfeiriad yn Heol Casnewydd, Caerdydd, ar 8 Ionawr a mynd gyda Mr Hassan i uned ddalfa Bae Caerdydd yng nghefn fan heddlu.

“Yn ystod y cyfnod hwn, clywyd Mr Hassan ar gamera corff yn cwyno am fod wedi cael ffit, dioddef meigryn, ac yn arddangos arwyddion o brofi poen.

“Mae’r hysbysiad camymddwyn yn ymwneud â methiant, o bosibl, i drosglwyddo’r wybodaeth hon i staff y ddalfa oedd yn gyfrifol am les Mr Hassan.”

Dywedodd y llefarydd nad yw’r hysbysiad camymddwyn “o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw gamwedd” ond bod ymchwiliad yn mynd rhagddo i ymddygiad swyddog.

Y gosb fwyaf difrifol y gellir ei osod os gwelir bod swyddog wedi torri safonau proffesiynol ar lefel camymddwyn yw rhybudd ysgrifenedig.

Dywedodd cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: “Rydym yn parhau i ddadansoddi’r ffilm a dod â thystiolaeth arall at ei gilydd, ac rydym yn edrych ar yr holl ryngweithio a gafodd yr heddlu gyda Mr Hassan dros benwythnos ei farwolaeth.

“Yn ystod ymchwiliad, lle mae arwydd yn codi y gallai swyddog fod wedi torri safonau proffesiynol a allai warantu cosb ddisgyblu, rydym yn cyflwyno hysbysiad disgyblu i’w hysbysu ei bod yn destun ymchwiliad.

“Rydym wedi cynghori teulu Mr Hassan a Heddlu De Cymru ein bod wedi gwneud hynny i un swyddog dros beidio, o bosibl, â throsglwyddo gwybodaeth am les Mr Hassan i’r sarjant ar ddyletswydd yn y ddalfa.

“Rydym yn parhau i adolygu hysbysiadau camymddwyn yn ystod ymchwiliad. Ar ddiwedd ymchwiliad, mae’r IOPC yn penderfynu a oes gan unrhyw swyddog o dan hysbysiad achos disgyblu i’w ateb.”

Datganiad Heddlu De Cymru

Dywedodd datganiad gan Heddlu De Cymru: “Mae’r heddlu’n parhau i gydweithredu’n llawn ag ymchwiliad yr IOPC ac mae’n rhoi gwybodaeth a deunydd iddynt, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng a fideos o gamera a wisgir ar gorff.

“Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi’i chael ar ei deulu, ei ffrindiau, a’r gymuned ehangach. Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau i fod gyda nhw.”

Datganiad Cyfreithiwr y Teulu

Dywedodd y Cyfreithiwr Hilary Brown, sy’n cynrychioli teulu Mr Hassan, fod y teulu’n “ofidus iawn” o glywed ei fod wedi bod mewn poen neu wedi cael ei anafu yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa.

Dywedodd Ms Brown: “Dydyn ni ddim yn gwybod ffynhonnell yr anafiadau hynny.

“Ond wrth gyfleu hynny i heddwas, a ddylai wedyn fod wedi tynnu sylw sarjant y ddalfa… mae rhywun yn meddwl pe bai hynny wedi’i wneud, yna efallai y byddai sylw meddygol wedi ei geisio ar ei gyfer.

“Alla’ i ddim gweld sut maen nhw’n dweud y gallai hyn arwain at [ddim ond] camymddwyn. Mae hyn [yn hytrach] yn gamymddwyn difrifol a allai fod wedi cyfrannu at rywun yn colli bywyd.”

Dywedodd fod y teulu wedi galw am atal y swyddog dan sylw ar unwaith, ac nad yw rhybudd ysgrifenedig posibl “mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu difrifoldeb yr esgeulustod”.

Ychwanegodd Ms Brown nad oedd gan Mr Hassan hanes blaenorol o ddioddef ffitiau.