Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod rhieni ysgolion pentrefol wedi’u “trin fel darnau bach mewn gêm” a bod y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, “fis yn hwyr” yn awgrymu y dylid gohirio ymgyngoriadau ar gau ysgolion.
Daw hyn wedi i gyfnod addasiad dros dro i’r Côd Trefniadaeth Ysgolion gael ei ymestyn heddiw (dydd Llun 15 Chwefror) tan 28 Chwefror.
Y Côd Trefniadaeth Ysgolion sy’n gosod gofynion y mae angen i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a hyrwyddwyr eraill) weithredu yn unol â hwy.
Mae’r Côd arferol yn nodi fod rhaid i unrhyw ymgynghoriad o leiaf 42 niwrnod o hyd, ac yn cynnwys o leiaf 20 dydd ysgol.
Diwygio’r Cod
Fis yn ôl, ar 7 Ionawr, diwygiwyd y Cod dros dro i olygu bod “’diwrnod ysgol’ yn cynnwys diwrnod pan fyddai sesiwn ysgol wedi ei chynnal pe na bai unrhyw gyfyngiad ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol”.
Ar yr un diwrnod, roedd y mudiad wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o dorri’r Côd Trefniadaeth Ysgolion.
Yn sgil yr addasiad, dechreuodd Cyngor Sir Caerfyrddin ymgynghoriad chwe wythnos o hyd i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg ger Cydweli a gwnaeth Cyngor Gwynedd dro pedol ar newid y cyfnod ymgynghori ar y cynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch.
Disgrifiodd Cymdeithas yr Iaith y penderfyniad i gynnal yr ymgyngoriadau tra bod ysgolion ar gau oherwydd y pandemig fel un “arbennig o greulon”.
“Mae ymgynghori ar ddyfodol ysgolion fel Abersoch a Mynydd-y-Garreg tra bo ysgolion ar gau o ganlyniad i argyfwng iechyd yn gwbl annheg, ac yn bryder a baich ychwanegol ar rieni, llywodraethwyr a’r plant eu hunain,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol.
Nodyn ‘arfer da’
Heddiw (dydd Llun 15 Chwefror), wrth adnewyddu’r caniatâd i Awdurdodau Lleol gynnal ymgynghoriadau yn ystod pandemig tra bo’r ysgolion ar gau, mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi nodyn ‘arfer da’ newydd sy’n nodi y “dylai cynigwyr ystyried a ddylid gohirio ymgynghoriadau ar hyn o bryd neu ymestyn cyfnodau ymgynghori er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl ystyried y cynnig a dweud eu dweud”.
“Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i gasglu adborth o safon ac yn sicrhau bod pob parti’n teimlo ei fod yn cael ei gynnwys a bod eu barn yn cael ei werthfawrogi.”
“Mae hefyd yn caniatáu mwy o amser i gymunedau ddod at ei gilydd, efallai ar-lein drwy’r cyfryngau cymdeithasol, i drafod y cynnig cyn ymateb,” meddai’r nodyn.
“Dros fis yn hwyr”
Wrth ymateb, dywed Bethan Williams ar ran Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro o Gymdeithas yr Iaith “Mae’r Gweinidog Addysg dros fis yn hwyr yn awgrymu nawr y gall Awdurdodau Lleol ystyried gohirio’r ymgynghoriadau y gwnaeth hi eu caniatáu trwy ruthro i newid y rheolau ar y 7fed o Ionawr.
“Ers 5 wythnos mae rhieni a llywodraethwyr mewn cymunedau fel Mynydd y Garreg a Blaenau yn Sir Gâr wedi gorfod ceisio amddiffyn eu hysgolion rhag cynigion i’w cau tra bod yr ysgolion eu hunain ar gau, a rhieni ddim yn cael cyfarfod â’i gilydd.
“Bu’n straen mawr ar ben pryderon am iechyd, am fywoliaeth ac am addysgu plant adre,” meddai.
“Dim ond nawr, yn ystod wythnos olaf yr ymgynghoriadau, y mae’r Gweinidog Addysg yn awgrymu efallai nad yw’n syniad da wedi’r cyfan.
“Mae fel petai’r pleidiau i gyd yn defnyddio’r rhieni fel rhyw ddarnau bach mewn gêm fawr. Mae’n bryd rhoi sicrwydd i’r cymunedau dewr hyn am ddyfodol eu hysgolion.”