Mae Prifysgol Caerdydd â Chanolfan Ymchwil Canser Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn lansio cystadleuaeth a phecyn addysg ar y cyd – sef ‘Mae Ymchwil yn fy Ysbrydoli’.

Mae’r pecyn wedi cael ei ddatblygu gan athrawon, ymchwilwyr, a beirdd… gyda’r gobaith o “ysbrydoli cenhedlaeth o ymchwilwyr yn y dyfodol” wrth wella sgiliau llythrennedd a chymhwysedd digidol.

Yn ogystal â’r pecyn addysg, mae’n cynnwys adnodd i helpu plant i asesu dilysrwydd honiadau ymchwil feddygol y maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw ar-lein a chystadleuaeth sy’n eu herio i fod yn greadigol ac ysgrifennu cerdd am ymchwil canser.

Mae’r adnodd rhad ac am ddim wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan athrawon Saesneg a Chymraeg gyda disgyblion cyfnod allweddol tri (11 – 14 oed).

“Mae’n hyfryd gwybod bod fy ngwaith yn helpu i wella bywydau cleifion canser a gobeithio y bydd y pecyn addysg hwn yn annog pobl ifanc i ystyried dilyn gyrfa yn y maes,” meddai Dr Kieran Foley, ymchwilydd clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a radiolegydd ymgynghorol, wnaeth helpu i ddatblygu’r prosiect.

“Ysbrydoli cenhedlaeth o ymchwilwyr yn y dyfodol”

Mae’r beirdd Ifor ap Glyn ac Owen Sheers wedi cyfansoddi eu gwaith eu hunain, yn seiliedig ar sgyrsiau gyda rhai o’r ymchwilwyr sy’n trin canser yng Nghymru, er mwyn ysbrydoli.

“Roedd yn fraint cael cyfrannu at y prosiect hwn, yn enwedig oherwydd y cyfle i siarad yn uniongyrchol â rhai o’r gwyddonwyr a’r meddygon sy’n gweithio’n gyson ar ymchwil canser yma yng Nghymru,” meddai Ifor ap Glyn, a gyfansoddodd y gerdd Gymraeg, isod.

“Roedd fy sgyrsiau gyda’r ymchwilwyr yn wirioneddol ysbrydoledig a gobeithio bod y gerdd ffilm yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at ysbrydoli cenhedlaeth o ymchwilwyr yn y dyfodol,” ychwanegodd y bardd, awdur a’r dramodydd Owen Sheers, a ysgrifennodd y gerdd Saesneg, isod.

Mae’r gystadleuaeth farddoniaeth ar agor tan Ebrill 30 2021, gyda’r beirdd yn dewis un enillydd am gerdd Gymraeg ac un enillydd am gerdd Saesneg.

Bydd yr enillwyr yn derbyn £150 yr un mewn tocynnau llyfr ar gyfer eu hysgol a bydd eu cerddi’n cael eu harddangos yn gyhoeddus mewn cyfleuster ymchwil canser.