Mae Prif Weithredwr S4C wedi ymddiheuro ar ôl i drafferthion technegol atal y sianel rhag llwytho rhai rhaglenni ar lwyfannau Clic a BBC iPlayer am bythefnos.

Roedd y nam wedi achosi problemau gyda rhaglenni ar-alw a rhai gwasanaethau eraill fel is-deitlau, ers dechrau mis Chwefror.

Eglura Owen Evans fod y gwasanaeth bellach yn rhedeg fel y dylai.

“Mae’n ddrwg gen i am hyn a diolch i chi am eich amynedd wrth i ni weithio i ddatrys y sefyllfa,” meddai.

“Rwy’n falch o ddweud fod pethau wedi gwella’n arw erbyn hyn ac mae pethau nawr yn rhedeg yn union fel y maen nhw i fod.”

Symud i Sgwâr Canolog oedd ar fai

Ddiwedd fis Ionawr, fe ddechreuodd S4C ddarlledu o Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.

Yn ôl y sianel, y newid yma achosodd y trafferthion yn ymwneud â bwydo rhaglenni i wasanaethau Clic ac iPlayer.

Cyn hynny, roedd S4C wedi bod yn darlledu o Barc Tŷ Glas yn y brifddinas ers y 90au cynnar, a chyn hynny o Glos Sophia ar ôl lansio’r sianel yn 1982.

Er mwyn ymddiheuro wrth wylwyr, mae S4C wedi penderfynu cyhoeddi cyfres newydd ‘Fflam’ yn ei chyfanrwydd ar wasanaeth Clic nos Fercher, Chwefror 17.

“Gobeithio gwnewch chi ei fwynhau, ac ymddiheuriadau unwaith eto am y trafferthion,” meddai Owen Evans.

S4C yn ymddiheuro am broblemau technegol

Ers rhai dyddiau mae problemau wedi atal y sianel rhag llwytho rhai rhaglenni ar lwyfannau Clic a BBC iPlayer