Mae Heddlu’r De wedi datgelu iddyn nhw roi 138 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i bobol am dorri cyfyngiadau’r coronafeirws dros y penwythnos.

Cafodd y rhan fwyaf o ddirwyon eu rhoi i bobol oedd wedi ymgynnull mewn grwpiau neu wedi cynnal partïon mewn cartrefi, tra bod patrolau heddlu hefyd wedi arwain at roi nifer o gosbau am dorri cyfyngiadau teithio.

Ymhlith y rhai a gafodd ddirwy roedd:

  • Dyn a deithiodd o Fro Morgannwg i Bort Talbot i brynu cwch, cyn cael ei ddal ar ôl i’w gerbyd gael teiar fflat ar y daith adref.
  • Dau ddyn o Fro Morgannwg a deithiodd i Dubai am wyliau.
  • Pum oedolyn ifanc a gafodd eu dal yn yfed mewn car mewn maes parcio y tu allan i archfarchnad yng Nghaerdydd.
  • 27 dirwy ar gyfer pedwar parti mewn tai ar draws y Barri a Chaerdydd.
  • Pedair dynes mewn parti pen-blwydd yn y Barri.
  • Pum oedolyn yng nghegin tŷ ym Mhort Talbot yn ystod patrôl.
  • Saith beiciwr cwad yn Llansawel a oedd i ffwrdd o’u cartrefi heb esgus rhesymol.
  • Deg dirwy am ddau barti mewn tai yn Abertawe.

“Mae’r mwyafrif helaeth o bobol yn parhau i wneud y peth iawn ac yn aberthu er mwyn amddiffyn eu hunain, eu hanwyliaid a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Yn anffodus mae lleiafrif yn torri’r rheolau ac yn wynebu cael eu cosbi.

“Ni fyddwn yn goddef achosion o dorri rheolau amlwg a byddwn yn parhau i ymateb i bryderon gan ein cymunedau, yn cynnal patrolau ac yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid awdurdod lleol ar y Timau Gorfodi ar y Cyd i sicrhau bod y rheolau’n cael eu dilyn.”