Mae gan Louis Rees-Zammit yr “ymennydd rygbi” i gyd-fynd â’i gyflymder, meddai James Hook, cyn-faswr Cymru.
Fe sgoriodd yr asgellwr 20 oed ddau gais wrth i Gymru guro’r Alban 25-24 yn Murrayfield ddydd Sadwrn (Chwefror 13).
Daeth hyn chwe niwrnod yn unig ar ôl buddugoliaeth Cymru dros Iwerddon, lle’r oedd e hefyd wedi sgorio cais.
“Mae’r ffordd mae’n pasio chwaraewyr yn rhyfeddol, y peth brawychus yw ei fod yn dweud y gall fynd yn gyflymach,” meddai Hook wrth BBC Radio Wales.
Mae Rees-Zammit, sy’n chwarae i dîm Caerloyw yn Uwch Gynghrair Lloegr, wedi helpu i ddod â Chymru o fewn un fuddugoliaeth i’r Goron Driphlyg ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Ac mae Hook, a dreuliodd amser yn chwarae i Gaerloyw hefyd, yn credu bod cefnogwyr yn iawn i gynhyrfu am y gŵr 20 oed.
“Dydyn ni ddim eisiau pentyrru gormod o bwysau arno fe, ond dyma beth yw chwaraeon,” meddai.
“Rydych chi eisiau i chwaraewyr fel fe i sefyll i fyny ac effeithio’r gêm. Pam ddim cynhyrfu amdano?
“Mae hyn yn fy atgoffa o gap cyntaf George North yn erbyn De Affrica. Roedd cyffro enfawr ar ôl y gêm honno ac mae hyn yn teimlo’n union yr un fath.
“Yn amlwg mae ganddo fe gyflymder aruthrol ond mae ganddo fe ymennydd rygbi hefyd i gyd-fynd â’i gyflymder.
“Dydy’r perfformiadau yma i Gymru ddim yn syndod, mae wedi bod yn ei wneud i Gaerloyw dros y cwpl o dymhorau diwethaf.”
James Hook i ymddangos ar ‘Iaith ar Daith’
Mae’n bosib y gallwn glywed James Hook yn canu clodydd Louis Rees-Zammit yn y Gymraeg cyn bo hir hefyd, gan ei fod yn un o’r selebs fydd yn ymddangos ar gyfres nesaf ‘Iaith ar Daith’.
Bob wythnos, gan ddechrau ar nos Sul (Mawrth 7), bydd un seleb ac un mentor Cymraeg ei iaith, sydd hefyd yn wyneb cyfarwydd, yn teithio i fannau gwahanol o Gymru er mwyn dysgu mwy o’r iaith.
Ymhlith y selebs fydd Steve Backshall, yr anturiaethwr a chyflwynydd rhaglenni natur gan gynnwys ‘Deadly 60’ a Blue Planet Live, Joanna Scanlan, sydd wedi actio mewn cyfresi teledu megis The Thick of It a No Offence, a chyn-reolwr pêl-droed Cymru, Chris Coleman.
“Yn yr haf, wnes i ymddeol o chwarae rygbi, felly mae gen i dipyn bach mwy o amser ar fy nwylo,” meddai James Hook.
“Mae’n amser perffaith imi ddechrau dysgu’r iaith Gymraeg.”
Bydd James Hook yn cael ei fentora gan y dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn ystod y gyfres.