Louis Rees-Zammit oedd seren y gêm ym Murrayfield y pnawn yma, wrth i ddau gais ganddo sicrhau buddugoliaeth o 25-24 i Gymru mewn gêm gofiadwy.

Er bod yr Alban ar y blaen y rhan fwyaf o’r gêm, llwyddodd Cymru i daro’n ôl gyda chwarae meistrolgar, ac ennill gêm oddicartref am y tro cyntaf ers i Wayne Pivac ddod yn brif hyfforddwr.

Roedd y gêm wedi dechrau’n ddrwg i’r Alban wrth i’r tîm cartref ildio dwy gic gosb yn y tri munud cyntaf, ac er i ganolwr Cymru, Chris Harris, fethu’r un gyntaf, fe wnaeth y cefnwr Leigh Halfpenny gicio’i wlad 3 pwynt ar y blaen.

Buan y daeth y sgôr yn gyfartal fodd bynnag gyda Finn Russell yn sgorio cic gosb dros yr Alban ar ôl 11 munud.

Saith munud yn ddiweddarach roedd yr Alban yn glir ar y blaen 10-3 wrth i Darcy Graham sgorio cais a gafodd ei drosi gan Finn Russell.

Yn fuan wedyn roedd gan Gymru fynydd i’w ddringo wrth i’r Alban sgorio ail gais yn y 25ain munud, cais a gafodd ei drosi eto gan Finn Russell gan gynyddu eu mantais i 17-3.

Saith munud cyn hanner amser, bu’n rhaid i Leigh Halfpenny adael y cae oherwydd anaf i’w ben ar ôl gwrthdrawiad â Darcy Graham, a roddodd gyfle i Willis Halaholo gymryd ei le.

Wrth i’r gêm fywiogi unwaith eto, llwyddodd Cymru i sgorio cais fymryn cyn yr egwyl. Wrth i basio medrus greu lle i’r ymwelwyr, llwyddodd yr asgellwr Louis Rees-Zammitt i groesi’r llinell yn ei ail gais yn ymgyrch y Chwe Gwlad, gan roi hwb allweddol i Gymru wrth dorri’r diffyg i 17-8 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Cyffro’r ail hanner

Ar ôl i’r Alban gael cais a gafodd ei wrthod, fe ddaeth Wayne Pivac â Calum Sheedy a Kieran Hardy i’r cae ar y 49fed munud. Cafodd hyn effaith ar unwaith wrth i Gymru ailgipio’r meddiant a Rees-Zammitt yn creu cais i Liam Williams, cyn i Sheedy ei drosi i ddod â Chymru o fewn dau bwynt i’r Alban – 17-15.

Aeth pethau’n waeth i’r Alban pan gafodd y prop Zander Fagerson ei yrru oddi ar y cae yn y 54ydd munud. Cafodd gerdyn coch am daro’i ysgwydd yn erbyn Wyn Jones. A phrin 60 eiliad yn ddiweddarach croesodd Wyn Jones y llinell gan roi Cymru ar y blaen 20-17.

Er eu bod un dyn i lawr, daliodd yr Alban i roi Cymru dan bwysau, a sgoriodd Hogg ei ail gais, a gafodd ei drosi gan Russell, gan roi’r tîm cartref yn ôl ar y blaen 24-20 gyda 15 munud ar ôl.

Daeth tro arall annisgwyl yn yr ail hanner cofiadwy wrth i Rees-Zammitt sgorio cais dramatig heb help gan neb arall. Roedd yn gamp anhygoel i’r chwaraewr 20 oed, a sicrhaodd bwynt bonws i Gymru wrth ddod â’r sgôr terfynol i 25-24.

Mae’n golygu y bydd Cymru’n wynebu Lloegr yng Nghaerdydd ddiwedd y mis ar ôl dwz fuddugoliaeth yn olynol ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.