Mae Mei Gwynedd yn gerddor hynod adnabyddus, mae ganddo label a stiwdio ei hun, ac mae wedi rocio gyda Mr Urdd ac Oasis – ond ddim ar yr un pryd!

Dechreuodd ei yrfa roc-a-rôl nôl yn yr 80au pan oedd yn gitarydd y Beganifs, y band a esblygodd fewn i Big Leaves… ac yn ddiweddarach mi ffurfiodd Sibrydion.

Ers dros 20 mlynedd bellach mae’r gŵr o Waunfawr ger Caernarfon wedi byw yng Nghaerdydd, ac ers degawd mae wedi bod yn cynhyrchu cerddoriaeth yn ei stiwdio ac yn cyhoeddi senglau ac ati ar ei label, JigCal.

Yn 2019 mi recordiodd fersiwn fywiog o’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ gan ddenu cryn ganmoliaeth, ac ers blynyddoedd lawer mae wedi bod yn arwain cerddorfa ukelele.

Ar ben y cyfan, Mei Gwynedd sydd yn cynhyrchu’r caneuon sy’n cyrraedd ffeinal Cân i Gymru, ac mae hefyd wedi bod ynghlwm ag ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae hefyd yn chwarae’r gitâr ym mandiau Geraint Jarman ac Elin Fflur.

Gyda’i fysedd ym mhob un pot pop dan haul, onid yw’n blino?

“Dw i’n meddwl bod yn rhaid i chi fod yn agored i lot o bethau gwahanol [er mwyn gwneud bywoliaeth yn gerddor llawn amser],” meddai.

“Felly un munud dw i’n cynhyrchu cân heavy metal i rywun, ac yn y nos dw i’n gwneud pethau ukelele.

“Mae gen i lot o fandiau eitha’ gwahanol ar label JigCal hefyd. Mae yna wastad pethau i wneud efo hwnna.”

Ymhlith y bandiau ar ei label mae Mellt (a enillodd albwm Cymraeg y flwyddyn am Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc), Hyll, a Wigwam.

Ac yn fwy diweddar mae wedi cyhoeddi cerddoriaeth gan Dyfrig ‘Topper’ Evans ac Elin Fflur.

“Mae’n dechrau ehangu o jest bod yn fandiau Caerdydd i fod yn rhywbeth mwy,” meddai.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae hefyd wedi cyhoeddi ei ddeunydd ei hun, gan gynnwys yr albwm Glas, yr EP Tafla’r Dis, a llu o senglau.

Ochr yn ochr â’r label, a chyhoeddi a sgwennu caneuon, mae’n cael modd i fyw yn cynnal cerddorfa ukelele trwy Fenter Iaith Caerdydd.

Mae gan y gerddorfa tua 40 o aelodau, ac ar ben hynny mae ganddo ddosbarth o 20 o ddechreuwyr “newydd sbon”. Mae’n cynnal yr ymarferion a’r gwersi oll dros Zoom ar y funud.

“Efo’r [gerddorfa] dw i’n paratoi cân Gymraeg a chân Saesneg bob wythnos,” meddai. “Dw i’n mwynhau fo. Mae o jest yn ffordd dda o gael pobol at ei gilydd. Canu a chwarae yr iwc.

“Mae o i gyd yn ddigon ysgafn. Ac mae o’n dda i fi hefyd. Mewn ffordd dw i’n gallu astudio sut mae caneuon da yn cael eu rhoi at ei gilydd hefyd.

“Dw i’n dysgu rhywbeth bach wrth drefnu’r caneuon yma.”

Mi ddechreuodd y Beganifs yn 1988 gyda Mei Gwynedd dal yn yr ysgol, a daethon nhw i ben yn 2003 dan yr enw Big Leaves.

Big Leaves – Mei ar y chwith

Ac ymhlith yr aelodau eraill roedd Osian Gwynedd (brawd Mei), yr actor Rhodri Siôn, Kevin Tame, a Matt Hobbs. Mae gan Mei Gwynedd atgofion melys o gigs y 1990au.

“Ia, roedd o’n gyfnod rili cyffrous,” meddai. “Roeddan ni dal yn rili ifanc, yn ein hugeiniau cynnar, [yn chwarae efo] Catatonia a’r Super Furry Animals.

“Ac yn enwedig efo Catatonia. Wnaethon ni dipyn efo nhw a gweld o’n explode-io. Wnaethon ni gefnogi nhw yn Brixton Academy ddwywaith. Roedd pethau fatha hynna yn dda.”

Yn ddiweddarach mi sefydlodd y band Sibrydion gyda’i frawd, ac am gyfnod bu’n perfformio i The Peth – band a oedd yn cynnwys yr actor Rhys Ifans; a drymiwr y Super Furries, Dafydd Ieuan.

Oasis yng Nghaerdydd yn 2009, a mymryn
o Mei i’w weld tu ôl i ben Noel Gallagher

Bu The Peth yn cefnogi Oasis, y band byd enwog o Fanceinion, ac mae Mei Gwynedd yn dweud bod y profiad yn un cofiadwy.

Wnaeth y ddau fand berfformio gyda’i gilydd yn y Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn 2009.

Dyna oedd y flwyddyn y chwalodd Oasis yn sgîl ffraeo rhwng Liam Gallagher (prif leisydd cegog a drygionus Oasis) a Noel Gallagher (cyfansoddwr y caneuon a gitarydd/lleisydd y band).

Shwt beth yw night out gyda’r brodyr Gallagher?

“Mae o rwbath fatha fysa chdi’n ddychmygu, rili!” meddai Mei Gwynedd. “Ond, ia, roeddan nhw’n grêt. Roedd o jest cyn iddyn nhw chwalu hefyd. Roedd o’n od rili. Roeddan nhw’n ffrindiau.

“A wnaethon nhw gymryd ata fi tamaid bach gan bo fi wedi byw yn [Manceinion]. Ac roeddwn i’n licio’r un bands â nhw. Roedd hynna i gyd yn ddiddorol.

“Maen nhw’n dweud: ‘don’t meet your heroes’.

“Ond actually, roedd hynna’n werth ei wneud. Roedd hi’n noson werth ei chofio.”

Symudodd Mei Gwynedd o Waunfawr i Manceinon yn 16 oed, a bu’n byw yn y ddinas honno am bedair blynedd tra yn astudio cerddoriaeth.

Wedi hynny mi symudodd i Gaerdydd, ac er ei fod wedi treulio bron i hanner ei oes yn y brifddinas, mae’n dal i ystyried ei hun yn ‘Beganîf’, sef un o Waunfawr.

Pan yn iau roedd y cerddor eisiau bod yn “stuntman” – ond mae’n falch ei fod wedi cadw at gerddoriaeth yn lle.

“Dw i’n meddwl mai fi oedd efo’r mwya’ o stitches yn Waunfawr,” meddai. “Roedd o bron fatha cystadleuaeth rhyngdda fi a rhywun arall. Diolch byth wnes i dyfu allan o hynna!”

Mae’n dal i hoffi tanio’r adrenalin pob hyn a hyn ac yn ei amser rhydd mae wedi bod yn dysgu’r grefft ymladd, Taekwondo (mae ganddo felt werdd).