Fe gafodd yr actor a’r cerddor Ddolig da, gyda’i gân ‘Mae gen i angel’ yn hit ar y radio a’i bortread o gymeriad ‘Ifas y Tryc’ ar raglen Hewlfa Drysor yn argyhoeddi.

Mae’r canwr 42 oed yn byw yng Nghaerdydd ac yn rhannu ei amser rhwng cyfansoddi a rheoli siop goffi…

Beth sy’ ar y gweill yn 2021?

Dw i am gymryd llai o oriau yn rheoli’r siop, fel bo fi’n cael deuddydd yr wsos i ganolbwyntio ar fynd i stiwdio i recordio albwm.

Os wna i ddim gorffen sgwennu albwm blwyddyn yma, dw i ddim yn meddwl wna i fyth.

Pan ddaw petha’n ôl i drefn, dw i eisiau dechrau gigio eto hefyd…

Sut beth fydd yr albwm newydd?

Mi fydd yn rhywbeth lliwgar, positif, hapus – achos dw i’n uffernol o hapus ar y funud.

Dw i wedi, ella, bod trwy’r felin oherwydd beth bynnag, a weithiau bai fi’n hun, oherwydd dewisiadau… ond dw i’n actually hapus ar y funud. A dw i eisiau entyrteinio, eisiau i bobol licio’r tiwns.

Sut mae eich cerddoriaeth wedi datblygu ers eich dyddiau yn y band Topper?

Mae geiriau wedi dod yn fwy pwysig i fi.

Pan dw i yn gwrando ar hen ganeuon, fydda i’n meddwl: ‘Bechod wnes i ddim sgwennu dipyn bach mwy o eiriau fan’na, roedd o ’mbach rhy amwys’.

Sut mae’r clo diweddara’ wedi effeithio arna chi?

Er bod y siop wedi cau, dw i’n lwcus fy mod i’n cael ffyrlo ac yn gallu fforddio i fod adref yn sgwennu.

Ond mae o’n drist iawn i actorion, achos gweithio mewn tafarna’ a chaffis ydy outlet arall nhw, pan does ganddyn nhw ddim gwaith, a tydi’r ffyrlo ddim yn bodoli iddyn nhw.

Ac mae actorion yn gallu bod yn bobol eitha’ sensitif a hunanfeirniadol, a dw i’n gobeithio bod iechyd meddwl fy nghyd-berfformwyr yn iawn ac yn iach.

Pa mor hapus oeddech chi gyda’r ymateb gafodd ‘Mae gen i angel’?

Nôl ym mis Tachwedd gesh i fis boncyrs, yn dod adra o fy ngwaith ac aros fyny tan ddau, dri y bora yn cyfansoddi’r gân.

Ac mae hi wedi cael dipyn o sylw, cael ei chwarae bump, chwe gwaith y dydd ar y radio – a geith hi ei chwarae eto’r Dolig nesa’, gobeithio.

Mae’r adborth wedi bod yn dda, do. Dw i ddim wedi cael neb yn gyrru negas hyll!

Ac mae o’n neis i bobol wybod bod fi dal i fod wrthi, a bod yna fwy ar y ffordd.

A sut ymateb gawsoch chi i’ch portread o Ifas y Tryc?

Roeddwn i wrth fy modd yn cael ei wneud o, gan fy mod i yn ffrindiau da gyda Stewart Jones [sef yr actor gwreiddiol fu’n portreadu Ifas y Tryc].

Fysa yn neis os fyswn i’n cael gwneud ychydig bach mwy ohono fo, achos roeddwn i’n meddwl y byd o Stewart.

Sut ddaethoch chi i adnabod Stewart Jones?

Wnes i actio fel ei gymeriad o, yn hogyn bach, yn C’Mon Midffîld. Honna oedd fy joban actio gynta’ ar y teledu, pan oeddwn i’n 13.

Wedyn wnes i gyfres Meibion Glandŵr, a fo oedd yn actio fy nhad i yn hwnnw.

Wedyn wnaethon ni Talcen Caled, ac roedd o’n ryw fath o Yncl i fi yn hwnnw, a fuon ni yn cadw mewn cysylltiad.

Pa fudd gawsoch chi o’r berthynas?

Wnaeth o ddysgu gymaint i fi. Doedd ganddo fo ddim mynadd efo pethau arti-ffarti.

Dw i’n cofio fysa fo’n dweud: ‘Nes di wrando ff*c-ôl ar be ddywedish i fan yna rŵan! Ti jesd wedi dysgu dy leins. Ti’n disgwyl i fi orffan lein, a ti jesd yn ddweud o. Rhaid ti wrando!’

A fel yna’r oedd o, yn ei rhoid hi i fi!

Y wers orau gesh i erioed.

Sut wnaethoch chi ddysgu coginio? 

Jesd trwy gael gwaith mewn tafarna’ a chaffis, rhwng gwaith actio… ac fel yr actio, wedi dysgu trwy ei fyw o…

A dw i wrth fy modd yn coginio. Yr unig beth shit ydy pan ti’n gweithio yn cwcio, weithiau ti ddim eisiau dod adra a dechrau cwcio eto!

Beth yw eich ofn mwya’?

Dw i ofn pechu pobol a methu dweud ‘na’, a dw i wedi cymryd gormod ar fy mhlât yn y gorffennol.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Mae bod ar dy draed mewn siop am wyth awr y dydd yn exercise yn ei hun.

Ond efo’r amser off, dw i’n licio beicio.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Fyswn i’n gwneud unrhyw beth i gael eistedd lawr efo Richard Burton, a cael cwpwl o ddrincs – a beryg fysa ni ddim yn bwyta dim byd.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Roeddwn i’n actio mewn sioe Cyw, ac yn gwisgo trowsus eitha’ tynn, ac wrth ddawnsio dyma’r trowsus yn rhwygo…

Beth yw’r gwyliau gorau i chi fwynhau?

Tenerife llynadd pan wnaeth Elaine a fi ddyweddïo.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Seidr.

Beth yw’r llyfr difyrraf i chi ei ddarllen?

Fresh Apples gan Rachel Trezise.

Beth yw eich hoff air?

Reu!

Beth yw eich hoff gân Topper? 

‘Ofn gofyn’.

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Wnes i berfformio mewn cyngerdd i agor y Stadiwm Cenedlaethol yn 2000, ac roedd Ioan Gruffudd, Mathew Rhys a James Dean Bradfierld yna.

Roeddwn i’n star struck ac roedd yna uffarn o barti wedyn!

Rhanwch gyfrinach efo ni…

Dw i heb gael clean shave ers tua tair blynedd.