Mae cartwnydd amlwg yn hapus o fod yn perthyn i draddodiad anrhydeddus darlunwyr chwedlau Cymru….

Yn ei lyfr diweddaraf Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau, mae Huw Aaron wedi mynd ati i ddarlunio’r Mabinogi a chwedl Culhwch ac Olwen, yn ogystal â straeon Cantre’r Gwaelod, Tir na n’Og, byd y tylwyth teg a chewri’r mynyddau mawr.