Mae hi’n flwyddyn ers i’r achos cyntaf o covid gael ei gofnodi yma yng Nghymru, a byth ers hynny mae cyfnodau clo wedi mynd a dod.

Bu yn rhaid i gaffis, tafarnau a siopau gau eu drysau, a’r normal newydd i filoedd erbyn hyn yw gweithio a chael addysg adref.

Ydy, mae wedi bod yn gyfnod tu hwnt o heriol.

Ond yma, mae ambell wyneb cyfarwydd yn sôn am sut maen nhw wedi dod drwyddi…

Nia Parry, y cyflwynydd teledu sy’n byw yn Rhostryfan ger Caernarfon