Mae daeargryn cryf wedi taro arfordir gogledd-ddwyrain Japan, gan ysgwyd dinasoedd Fukushima a Miyagi ac ardaloedd cyfagos.

Cafodd adeiladau eu difrodi, ac fe fu 860,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan o achos y daeargryn a oedd yn mesur 7.3 ar raddfa Richter.

Er hyn, dywed cwmni trydan Tokyo nad oes adroddiadau o unrhyw broblemau gydag atoma Fukishuma Dai-ichi, lle bu’r trychineb yn sgil y daeargryn a’r tsunami 10 mlynedd yn ôl.

Dywed llefarydd ar ran llywodraeth y wlad hefyd nad oes unrhyw berygl o tsunami yn sgil y daeargryn.