Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i gerddwr gael ei ladd ar yr M4 i’r gorllewin o Gaerdydd yn gynnar y bore yma.
Bu farw’r dyn 34 oed ar ôl iddo gael ei daro gan nifer o gerbydau tua 5.45am rhwng cyffyrdd 34 a 35.
Roedd yr M4 yn dal ar gau rhwng Cyffordd 33 a 35 y bore yma, ac mae’r heddlu’n apelio ar i bobl geisio osgoi rhan hwn o’r draffordd am yr oriau nesaf.
Meddai’r Rhingyll Huw O’Connell o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau:
“Mae’n hanfodol bwysig fod unrhyw un a oedd yn teithio rhwng cyffyrdd 34 a 35 rhwng 5.35am a 5.50am y bore yma yn y naill gyfeiriad neu’r llall, ac a welodd rywbeth, waeth pa mor ddibwys, i gysylltu â ni.
“Fe fyddem yn arbennig o o falch o glywed gan unrhyw un a deithiodd yn yr ardal a all fod â lluniau dashcam.”
Maen nhw’n apelio ar unrhyw deithwyr gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod 2100051765.