Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfradd 7-diwrnod y coronafeirws bellach wedi gostwng i 99 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer cleifion coronafeirws mewn ysbytai hefyd yn gostwng, er bod nifer mawr o bobl sy’n ddifrifol wael o hyd, gan roi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Cafodd 400 o achosion newydd eu cadarnhau dros y cyfnod 24-awr diwethaf, gan godi’r cyfanswm ers cychwyn y pandemig i 198,761.

Cafodd 22 o farwolaethau ychwanegol hefyd eu cadarnhau dros yr un cyfnod.

“Rydym yn croesawu’r newyddion fod y rhaglen frechu yng Nghymru wedi cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol o 20 y cant o’r boblogaeth wedi cael eu brechiad cyntaf,” meddai Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru. “Mae hwn yn llwyddiant mawr ac yn gam pwysig tuag at leihau salwch difrifol a marwolaethau o’r coronafeirws.

“Ni fydd effeithiau’r brechiadau’n amlwg yn genedlaethol am beth amser, a rhaid i bawb – gan gynnwys y rheini sydd wedi cael eu brechu – barhau i ddilyn y cyngor ar gadw Cymru’n ddiogel.

“Fel cenedl, rydym wedi aberthu cymaint yn ystod cwrs y pandemig fel nad oes arnom eisiau gwastraffu’r enillion sydd wedi cael eu gwneud dros yr wythnosau diwethaf.”

Dros 715,000 o bobol yng Nghymru wedi cael eu brechiad cyntaf

“Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnig brechiad i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf”