Mae 66 diwrnod ers i’r person cyntaf yng Nghymru dderbyn y brechlyn yn erbyn Covid-19, ac ers hynny mae dros 715,000 o bobol wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn.

Golyga hyn bod un o bob pum person bellach wedi’u brechu yng Nghymru.

“Rwy’n hynod falch o ddweud ein bod wedi cyflawni’r garreg filltir gyntaf yn ein strategaeth frechu,” meddai Mark Drakeford yn ei gynhadledd heddiw.

“Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnig brechiad i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth gyntaf.

“Mae wedi bod yn ymdrech aruthrol a diolch i waith caled miloedd o staff y Gwasanaeth Iechyd, gwirfoddolwyr a phersonél milwrol ledled Cymru sydd wedi bod yn brechu pobol bob dydd o’r wythnos yn y canolfannau brechu torfol, meddygon teulu ac ysbytai.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un o’r pedwar grŵp cyntaf hyn yn cael ei adael ar ôl.

“Os ydych chi wedi newid eich meddwl am gael y brechlyn neu wedi methu eich apwyntiad oherwydd salwch, dydych chi ddim wedi colli allan ar eich siawns o gael y brechlyn.”

Eglurodd y Prif Weinidog bod y Gwasanaeth Iechyd yn gwirio ac yn ail-wirio’r rhestrau i sicrhau nad oes neb yn methu’r cyfle i gael brechlyn.

‘Ymdrech enfawr o gydweithio’

Yn ymuno â’r Prif Weinidog yn y gynhadledd brynhawn dydd Gwener, Chwefror 12, roedd Dr Sally Lewis – sy’n arwain yr ymgyrch frechu yng Nghymru.

Dywedodd bod cyrraedd y garreg filltir gyntaf wedi bod yn “ymdrech enfawr o gydweithio”, ond bod angen i hynny barhau.

“Dydym erioed wedi gweld brechu torfol ar y raddfa yma a’r cyflymder yma o’r blaen.”

Ychwanegodd bod rhagor o waith i’w wneud er mwyn annog pobl sydd â phryderon am gael eu brechu.

Y camau nesaf

Eglurodd y Prif Weinidog y bydd y gwaith o frechu’r grwpiau nesaf nawr yn dechrau a hynny er y bydd gostyngiad bach yn nifer y brechlynnau sydd ar gael – gostyngiad a gynlluniwyd ymlaen llaw.

Manylion ar y grwpiau nesaf i gael eu brechu:

  • Pawb rhwng 50 a 69 oed
  • Pawb dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl
  • Gofalwyr di-dâl sy’n darparu gofal i rywun sy’n agored i’r feirws

Er y bydd rhai canolfannau brechu yn cau am y tro ac eraill yn lleihau eu hamseroedd agor  oherwydd gostyngiad yng nghyflenwadau’r brechlyn Oxford-AstraZeneca, mae’r Prif Weinidog yn ffyddiog fod y rhaglen frechu ar y trywydd iawn i frechu’r grwpiau nesaf erbyn y gwanwyn.

Ffigurau diweddaraf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 25 yn rhagor o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.

Mae’n golygu bod 5,084 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru,

Mae 608 o achosion newydd hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd a’r cyfanswm i 198,362 ers dechrau’r pandemig.

Bellach mae 102 achos o’r feirws i bob 100,000 o bobol yng Nghymru.

Mae 715,944 o bobol wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn ac mae 4,010 wedi derbyn yr ail ddos.

Mae cyfanswm o 88.4% o bobl 80 oed a throsodd wedi derbyn eu dos cyntaf, ynghyd ag 86.3% o bobl 75-79 oed, a 79.8% o bobl 70-74 oed.

Y ffigur diweddaraf ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal pobl hŷn yw 80.3%, ac ar gyfer gweithwyr y cartrefi gofal hynny y ganran yw 83.5%.

Cymru’n cyrraedd ei tharged o gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf

Mark Drakeford yn canu clodydd y rhaglen frechu wrth gyrraedd y “garreg filltir gyntaf”

Mark Drakeford yn awgrymu na fydd rheolau Covid-19 yn newid tan y Pasg

Os bydd achosion yn parhau i ostwng ar yr un raddfa mae’r Prif Weinidog yn gobeithio bydd modd llacio’r rheolau adeg y Pasg

Cau canolfannau brechu ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf dros dro yn sgil lleihad “disgwyliedig” yng nghyflenwad y DU

Ond Prif Weinidog Cymru’n dweud bod cynlluniau’n parhau i gwblhau brechiadau o’r pum grŵp blaenoriaeth nesaf erbyn y Gwanwyn