Mae S4C wedi penodi Owen Derbyshire yn Gyfarwyddwr Marchnata a Digidol cyntaf erioed y Sianel Gymraeg.
Bu’n aelod o Fwrdd Unedol S4C cyn cael y swydd newydd hon, ac mae yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg sy’n rhoi cyngor i Eluned Morgan, y gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am yr iaith.
Yn ei swydd newydd bydd yn gyfrifol am adrannau digidol a chyfryngau cymdeithasol S4C, yn ogystal â’r timau brand a delwedd, hyrwyddo a chyflwyno.
Daw Owen Derbyshire o Gaerdydd ac mae wedi bod yn gweithio fel Ymgynghorydd Digidol llawrydd gan sefydlu cwmni ei hun, Datblygu Cymru, lle bu’n cefnogi busnesau a mentrau cymdeithasol i ffynnu.
Yn ôl Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, bydd y swydd newydd hon yn “gwella ac ehangu ein perthynas efo’r gynulleidfa”.
“Yn ogystal â phrofiad lefel uchel yn y byd digidol, mae gan Owen [Derbyshire] ymwybyddiaeth glir o’r maes darlledu, ac mi fydd y profiad hwn yn allweddol iddo yn y rôl newydd hon gydag S4C,” meddai Owen Evans.
“Mae apwyntiad Owen yn rhan glir o’n strategaeth i wir fabwysiadu defnydd y byd digidol a data er mwyn gwella ac ehangu ein perthynas efo’r gynulleidfa.
“Rwy’n edrych ymlaen at ei groesawu i blith y staff yn fuan ac i gyd-weithio’n agos ag ef mewn cyfnod pwysig i S4C.”
“Cyfnod cyffrous i’r sianel”
Dywedodd Owen Derbyshire: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ymuno gydag S4C yn y rôl allweddol hon.
“Rwy’n gobeithio gallu defnyddio fy mhrofiad ym maes digidol ac ymgynghori i adeiladu ar y gwaith da mae S4C wedi ei wneud i ddatblygu’n ddigidol yn y blynyddoedd diwethaf.
“Yn sicr mae’n gyfnod cyffrous i’r sianel ac mae’n fraint cael ymuno gyda’r tîm.”