Mae enillwyr Gwobrau’r Selar wedi bod yn cael eu cyhoeddi fesul un ar BBC Radio Cymru’r wythnos hon, ac enw enillydd y ddwy brif wobr wedi ei gyhoeddi ar Sioe Tudur Owen y prynhawn yma.
Bwncath sydd wedi cipio’r tlysau am fod y band gorau ac am greu’r albwm orau yn 2020.
Nhw hefyd enillodd am y fideo orau.
Yn gynharach yn yr wythnos daeth y cyhoeddiad ar y radio bod y criw wnaeth recordio’r albwm ‘Cofi-19’ yn ystod y clo cyntaf wedi ennill y wobr Gwaith Celf Gorau.
Ymysg yr enillwyr eraill, fe gafodd Gwenno’r wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ am ei gwaith yn creu cerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd.
Y gwobrau ar y radio
Oherwydd y covid, ni chafwyd y seremoni wobrwyo arferol ac e fe gyhoeddwyd yr enillwyr ar y radio.
Lansiwyd yr wythnos wobrau yn swyddogol ar raglen Aled Hughes fore Llun, gan ddatgelu hefyd mai’r gantores o Ddyffryn Clwyd, Mared, oedd wedi cipio’r wobr gyntaf sef ‘Seren y Sîn’.
Y diwrnod canlynol cipiodd Mared ei hail wobr yn y categori ‘Artist Unigol Gorau’, gyda’r gantores, Malan, yn ennill y wobr am y ‘Band neu Artist Newydd Gorau’.
Rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar 2020
Seren y Sîn: Mared Williams
Gwaith Celf: Cofi 19
Band neu Artist Newydd: Malan
Artist Unigol Gorau: Mared
Cân Orau: ‘Hel Sibrydion’ – Lewys
Gwobr 2020: Eädyth
Record Fer: Dim ond Dieithryn – Lisa Pedrick
Cyfraniad Arbennig: Gwenno
Fideo Gorau: ‘Dos yn Dy Flaen’ – Bwncath
Band Gorau: Bwncath
Albwm orau: Bwncath II gan Bwncath