Mae’r Urdd wedi datgelu trefniadau Eisteddfod T eleni.
Fis Rhagfyr cyhoeddodd y mudiad bod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2021 wedi’i gohirio eto yn sgil pandemig y coronafeirws tan 2022 – sef blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd.
Y llynedd cynhaliwyd yr Eisteddfod T cyntaf erioed a denwyd 6,000 o blant a phobol ifanc i gystadlu, ond eleni mae’r Urdd yn anelu at gynnal Eisteddfod T “fwy arloesol fyth”.
‘Arbrofol, arloesol a chyffrous’
“Mi ydan ni’n benderfynol o gynnal Eisteddfod T fwy arbrofol, arloesol a chyffrous nac erioed o’r blaen,” meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Siân Eirian.
“Dyma gyfle i feithrin ac arddangos talent o bob math, o gantorion a llenorion i sêr TikTok y dyfodol.
“Yn ogystal â’r cystadlaethau mwy traddodiadol fel llefaru neu’r alaw werin, mae modd i unigolion, grwpiau mewn ‘swigod’ a theuluoedd gymryd rhan mewn cystadlaethau mwy anffurfiol.
“Mae yna hyd yn oed cystadlaethau i athrawon ac aelodau hŷn o’r Urdd!
“Rydan ni’n gobeithio bydd yr arlwy amrywiol yn plesio ein Heisteddfodwyr arferol, ond yn denu llawer o’r newydd, hefyd.
“Felly cymerwch eich sedd ar y soffa, tawelwch eich ffôn, a rhowch bob chwarae teg i’r cystadleuydd nesa’ – mae Eisteddfod T yn ei ôl!”
Codi calonnau
Bydd disgwyl i gystadleuwyr gyflwyno gwaith cyfansoddi, fideos o berfformiadau a lluniau o’u gweithiau creadigol o flaen llaw, yna bydd y rowndiau terfynol gael eu darlledu mewn cyfres o raglenni arbennig ar S4C a BBC Radio Cymru dros bum niwrnod rhwng Mai 31 a Mehefin 4.
“Does dim amheuaeth fod Eisteddfod T wedi codi calonnau a dod â hwyl i gannoedd o deuluoedd yn ystod cyfnod anodd a thywyll y llynedd,” meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at arddangos talentau plant a phobol ifanc Cymru yn ogystal â mamau a thadau, a neiniau a theidiau!”
Dywed Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru, ei bod hi’n falch o gael rhoi llwyfan i ddoniau a sgiliau pobol ifanc Cymru.
“Edrychwn ymlaen at wledd o leisiau dros wyliau’r Sulgwyn ar Radio Cymru a Radio Cymru 2 fydd yn sicr o ddod â gwefr a mwynhad i’n gwrandawyr,” meddai.