Y llynedd cododd cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru 8.2%, y cynnydd uchaf mewn 15 mlynedd.
Y pris cyfartalog erbyn hyn yw £209,723, y tro cyntaf erioed i’r pris cyfartalog fod dros £200,000.
Yn ôl Mynegai Prisiau Tai’r Principality, sydd yn seiliedig ar ffigyrau gwerthiant Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi, roedd cynnydd mewn prisiau tai yn ystod 2020 ym mhob un awdurdod lleol yng Nghymru.
Roedd 18 o’r 22 sir yng Nghymru wedi gweld y prisiau uchaf erioed yn ystod tri mis olaf 2020.
Yn ôl cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru mae’r cyfnodau clo wedi arwain at bobol yn prynu cartrefi mwy gyda gerddi mwy.
Fodd bynnag, roedd nifer y tai a werthwyd wedi gostwng 21% o’i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Cymorth gan awdurdodau lleol i brynwyr cyntaf
O ganlyniad i bryderon y bydd pobol methu ymuno â’r farchnad dai oherwydd y cynnydd mae rhai cynghorau sir eisoes wedi cymryd camau uniongyrchol i fynd i’r afael â’r broblem.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig darn o dir am bris gostyngol i bobol leol adeiladu eu cartref cyntaf.
A tra bod Cyngor Gwynedd yn ystyried cynyddu’r premiwm ail gartrefi o 50% i 100% mae’r cyngor hefyd yn ystyried prynu tai i’w rhentu i drigolion lleol.