Mae Cynghorydd yng Ngwynedd wedi tynnu sylw at gyflwr y farchnad dai yno – a pha mor anodd y mae hi i bobol leol brynu tai yno.
Wrth i Blaid Cymru alw am ddiwygio rheolau tai haf, mae Craig ab Iago wedi tynnu sylw at Asesiad Tai Lleol diweddaraf Cyngor Gwynedd (am gyfnod 2018-23).
Mae’r ddogfen yn nodi bod 59% “wedi cael eu prisio allan o’r farchnad yng Ngwynedd” – 56% yw’r ffigur dros Gymru gyfan.
Mae hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod 38% o’r eiddo a werthwyd yng Ngwynedd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020 wedi eu prynu i fod yn ail gartrefi (ystadegau Llywodraeth Cymru).
“Angen chwyldroi’r sustem”
Craig ab Iago sy’n gyfrifol am bortffolio tai Cyngor Gwynedd ond mae yntau’n beio llywodraethau Caerdydd a Llundain am y sefyllfa yma.
“Mae angen chwyldroi’r sustem ddatblygu a’r system gynllunio yng Nghymru,” meddai cynghorydd Plaid Cymru ward Llanllyfni.
“Yn fy ward i cafodd capel ei addasu a’i roi ar y farchnad am £400,000 gan werthwr tai o Loegr fel ail gartref neu dŷ gwyliau.
Mae cyfartaledd cyflogau Gwynedd ymhlith yr isaf yn y Deyrnas Unedig.
A dywed Craig ab Iago fod “hyrwyddo’r cyn-gapel yma, mewn ffordd ansensitif fel hyn, yn rhwbio halen ar y briw.”
Galwad Plaid Cymru
Mae’r Blaid yn pryderu bod Cymry ledled y wlad methu fforddio byw ym mröydd eu mebyd, ac maen nhw’n galw am gyflwyno newidiadau.
Mae un o’r prif alwadau yn gysylltiedig â chau bwlch yn y gyfraith sy’n caniatáu i berchenogion ail gartrefi beidio â thalu treth gyngor.
Dywedodd yr Aelod o’r Senedd Delyth Jewell, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol:
“Mae cartrefi yn ganolog i ymdeimlad o gymuned ac mae’n hanfodol nad yw pobl leol yn cael eu prisio allan o’u bro. Mae mor bwysig galluogi pobl i aros yn yr ardal y cawsant eu magu ynddi, ac mae polisi sy’n sicrhau bod yn rhaid i 50% o’r holl stoc tai newydd fod yn dai cymdeithasol yn mynd beth o’r ffordd i fynd i’r afael â hyn.
“Pan fo gennych chi berchnogion tai sydd â mecanwaith i optio allan o dalu’r dreth gyngor, mae hyn yn effeithio ar ffrydiau incwm cynghorau, ac yn andwyo cymunedau mwy fyth. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i reoli’r broblem hon ar unwaith.”