Mae disgwyl i filoedd o weithwyr y GIG brotestio dros y penwythnos gan fynnu codiad cyflog.

Dywedodd Undeb Unite, sydd â 100,000 o aelodau yn y Gwasanaeth Iechyd, ei bod nhw’n cefnogi’r rhai sy’n dymuno mynychu’r protestiadau a fydd yn dangos yr anfodlonrwydd a’r rhwystredigaeth ymhlith staff y GIG.

Mae disgwyl i weithwyr y GIG gael codiad cyflog fis Ebrill nesaf, ond mae undebau eisiau i’r Llywodraeth wneud hyn eleni.

‘Clapio ddim yn ddigon’

“Mewn degawd o lymder Torïaidd, mae staff y GIG wedi gweld eu cyflog yn cael ei dorri o 20%  – ni all unrhyw faint o glapio na geiriau gweinidogol cynnes wneud iawn am y golled ddramatig hon mewn incwm”, meddai Swyddog Iechyd Cenedlaethol Undeb Unite, Jackie Williams.

“Mae staff nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wedi ymateb gyda dicter i gael eu hanwybyddu pan roddwyd codiadau cyflog i lawer yn y sector cyhoeddus y mis diwethaf a’r Llywodraeth heb glywed galwad undebau llafur iechyd i ddod â’u codiad cyflog ymlaen o Ebrill 2021.

Awgrymodd arolwg diweddar gan undeb Unison fod 69% o bobol yn credu y dylai gweithwyr y GIG gael codiad cyflog eleni.

Dydd Mercher diwethaf (Gorffennaf 29), gorymdeithiodd cannoedd o weithwyr y GIG i Downing Street gan fynnu codiad cyflog ar unwaith.

Wrth gerdded i Whitehall roedd y gweithwyr yn cario baneri oedd yn dweud “Nid yw clapio wedi talu fy miliau” a “Fe wnaethon ni eich helpu chi i oroesi, nawr ein helpu ni i oroesi”.

‘Cyflog teg’

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Coleg Nyrsio Brenhinol: “Er nad ein digwyddiadau ni yw’r rhain, byddwn bob amser yn cefnogi aelodau sy’n chwarae rhan weithredol wrth ymladd am gyflog teg ac amodau i staff nyrsio.

“Dylai’r Llywodraeth wrando ar y gweithwyr proffesiynol ymroddedig hyn, clywed eu dadleuon a derbyn nad oes dewis arall yn lle codiad cyflog sylweddol eleni.

“Mae aros tan 2021 yn annerbyniol.”