Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn galw am broses newydd ar gyfer pasio’r gyllideb flynyddol yng Nghymru i sicrhau ‘symlrwydd, tryloywder ac atebolrwydd.’
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ‘cynnig’ o ran y gyllideb a’r cyfraddau treth bob blwyddyn, ond mae’r Pwyllgor Cyllid yn galw am broses ddeddfwriaethol newydd ar gyfer y gyllideb sy’n diwallu anghenion pawb yn llawn ac sy’n adlewyrchu aeddfedrwydd y Senedd ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli.
Proses newydd
Byddai proses ddeddfwriaethol newydd y gyllideb yn golygu cyflwyno bil i’r Senedd bob blwyddyn sy’n cymeradwyo cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru a’r cyfraddau trethiant sydd i’w talu gan bobl yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor hefyd o’r farn y dylid cryfhau gwaith y Senedd a Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â’r cyhoedd wrth graffu ar y gyllideb cyn, ac wedi iddi gael ei gosod, a hynny gan eu bod yn credu ei bod yn hanfodol bod y cyhoedd yn rhan o’r broses.
Adlewyrchu pwerau
“Rydym ni wedi dod yn bell ers dechrau datganoli ym 1999” meddai Llyr Huws Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
“Gyda mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru a’r Senedd, a’r pŵer i bennu cyfraddau treth yma yng Nghymru, mae’n bwysig bod y ffordd ry’ ni’n pasio’r gyllideb yn adlewyrchu hyn.
“Mewn unrhyw ddemocratiaeth fodern, mae’n allweddol i’r senedd ddwyn y llywodraeth i gyfrif yn iawn, yn enwedig ar ei chynlluniau gwariant a’i lefelau treth. Mae’r rhain yn benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl bob dydd ac rydym am wneud y broses yn addas at y dyfodol, gan sicrhau ei bod yn syml, yn dryloyw a bod y Llywodraeth yn wirioneddol atebol i Aelodau’r Senedd a phobl Cymru.”