Mae dau o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon am gynlluniau Llywodraeth San Steffan i greu marchnad fewnol oddi fewn i’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Llywodraeth yn Llundain yn gobeithio sicrhau undod yn y farchnad oddi fewn i’r Deyrnas Unedig trwy gyflwyno papur gwyn newydd.

Ond mae yna bryderon mai ymgais yw hyn i gipio pwerau sy’n ymwneud â materion datganoledig, ac y gallai’r cam arwain at gwymp mewn safonau bwyd.

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, a Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yw’r ddau sydd wedi mynegi eu hanfodlonrwydd.

Refferenda

Mewn darn ar wefan The Grocer mae Lesley Griffiths yn rhybuddio nad yw Brexit yn rhoi rhwydd hynt i weinidogion San Steffan gipio pwerau rhag y llywodraethau datganoledig.

“Rydym yn bryderus iawn,” meddai. “Mae yna rannau [o’r cynigion] sydd wedi’u datganoli, ac maen nhw jest yn eu hanwybyddu. Nid refferendwm ar ddatganoli oedd refferendwm yr UE.

“Felly dylen [nhw] beidio â’n hystyried ni yn ddim byd ond ‘rhanddeiliaid’, neu’n rhywun y mae’n rhaid iddyn nhw ddim ond gysylltu ag ef. Rydym yn bartneriaid cydradd o gwmpas y bwrdd.”

Cyw iâr clorin

Mewn darn ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig mae Jeremy Miles yn dweud bod y papur gwyn “ar y gwaetha’, yn ymgais i gipio pwerau oddi wrth y Senedd.”

Mae hefyd yn egluro na fyddai Llywodraeth Cymru – dan y cynlluniau – yn medru stopio cyw iâr clorin (clorinated) rhag cael ei werthu yng Nghymru, pe bai dêl masnach â’r UDA yn caniatáu hynny.

“Ac mae mwy i hynny,” meddai. “Byddai egwyddor o beidio â gwahaniaethu yn dod yn gyfraith.

“Ac mae’n ymddangos bod hynny’n golygu na fyddai Cymru’n medru defnyddio’i phwerau datganoledig tros labelu i fynnu bod labeli’n nodi’n glir bod cyw iâr wedi’u golchi mewn clorin.”

Pwerau economaidd

Byddai’r drefn arfaethedig hefyd yn ffrwyno gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau datblygu economaidd, meddai Jeremy Miles:

“Mae’r Papur Gwyn yn cynnig [y dylai Llundain] gymryd rheolaeth dros yr hyn y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei alw’n “gyfundrefn gymorthdaliadau” – gan roi system o reoli grantiau a benthyciadau i fusnesau ar waith; system y penderfynir arni yn Whitehall ac a gaiff ei phlismona gan un o adrannau Llywodraeth y DU, adran sy’n gyfrifol am hyrwyddo busnes yn Lloegr!”