Mae angen “ymyrraeth sylweddol” er mwyn tanio “cynnydd radical” yn nifer yr athrawon sy’n medru addysgu trwy’r Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn adroddiad newydd mae’r Comisiynydd yn pwysleisio pwysigrwydd addysg wrth sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu’r nifer sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, neu addysgu’r iaith fel pwnc, i 9,400 erbyn 2050.

Cwymp

Ond mae’r adroddiad yn dangos cwymp dros y pum mlynedd diwethaf yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu siarad Cymraeg neu weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r gostyngiad hwn yn peri pryder i ni fel y mae’r ffaith nad yw nifer sylweddol o athrawon sy’n rhugl neu’n weddol rugl yn y Gymraeg yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Aled Roberts.

“Mae targedau athrawon strategaeth Cymraeg 2050 yn heriol, ac er mwyn eu gwireddu rhaid gwyrdroi tueddiadau’r ddegawd ddiwethaf.”

Dros y pum mlynedd ddiwetha’ bu gostyngiad o 23% yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu siarad Cymraeg a chwymp o 27% yn y rhai sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw am lunio strategaeth fel bod pawb sy’n hyfforddi i fod yn athro yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

“Mae angen chwyldro”

Yn ymateb i lansiad yr adroddiad mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw at eu hadroddiad diweddaraf hwythau, sef Mwy na Miliwn.

Mae’r ddogfen yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach na’u targed Cymraeg 2050, ac yn galw am fuddsoddi £100 miliwn dros ddeng mlynedd mewn hyfforddiant iaith i’r gweithlu addysg.

Mae hefyd yn galw am gynyddu’r targed presennol ar gyfer canran yr athrawon newydd sy’n medru’r Gymraeg o 30% i 80% erbyn 2026.

“Mae’n amlwg ein bod ni’n wynebu argyfwng prinder athrawon yn barod,” meddai Toni Schiavone, is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Ac mae angen chwyldro yn y ffordd rydyn ni’n cynllunio’r gweithlu addysg, a hyfforddiant cychwynnol athrawon.”

Mae’r mudiad hefyd yn galw am basio Deddf Addysg Gymraeg i bawb a fyddai’n gosod targed newydd i sicrhau bod 77.5% ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2040.

Y Llywodraeth yn “milwrio” yn erbyn?

Mae Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith yn dweud bod “arweiniad Comisiynydd y Gymraeg i’w groesawu’n fawr”, ac mae’n teimlo bod angen newid mawr ar ran y Llywodraeth.

“Gwaetha’r modd mae nifer o bolisïau’r Llywodraeth yn milwrio yn erbyn cynnydd yn nifer yr athrawon Cymraeg,” meddai.

“Un ohonyn nhw yw cyllido myfyrwyr Cymru i astudio yn Lloegr. Un arall yw trefn sy’n annog myfyrwyr disglair i astudio yn Lloegr.

“Er bod twf addysg Gymraeg yn gadarn, mae’n llawer rhy araf, ac mae’n bryder gwirioneddol y gall diffyg athrawon cyfrwng Cymraeg arafu’r twf ymhellach.”

Mae’n ategu bod angen cryfhau rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg a’r Coleg Cymraeg i wella sgiliau Cymraeg athrawon.

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae recriwtio athrawon all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac yn mynd i chwarae rhan bwysig yn ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Rydym yn darparu cymhellion ariannol sylweddol i ddenu athrawon Cymraeg eu hiaith drwy ein cynllun Iaith Athrawon Yfory, sy’n ategu ein hymgyrchoedd marchnata i ddenu athrawon newydd Cymraeg eu hiaith.

“Rydym hefyd yn cymryd nifer o gamau arloesol, gan gynnwys ein rhaglen newydd i athrawon cynradd Cymraeg eu hiaith sydd am addysgu mewn ysgolion uwchradd.

“Mae ffigurau diweddaraf UCAS yn dangos cynnydd o 19% yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr i hyfforddi i fod yn athrawon uwchradd. Mae hyn yn galonogol, gan y byddem wedyn yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n hyfforddi i fod yn athrawon yn medru addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”