Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi ymweld â chartref gofal ym Mae Caerdydd, a hynny er bod teulu preswylydd yn credu nad oedd hawl ymweld â’r cartref yn sgil achos o’r coronafeirws ar y safle.

Un o breswylwyr y cartref yw’r cyn-Aelod Cynulliad, Owen John Thomas.

Yn dilyn yr ymweliad brenhinol brynhawn dydd Mercher (Awst 5) rhannodd ei fab, Rhys ab Owen Thomas, sydd heb allu ymweld â’r cartref ers dechrau fis Gorffennaf, ei bryder ar Twitter.

Yr ymweliad

Dydd Mercher (Awst 5) roedd y Tywysog William a Kate Middleton yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers y clo mawr.

Ar ôl ymweld â’r Barri aeth y ddau ymlaen i gwrdd perswylwyr Cartref Gofal Shire Hall ym Mae Caerdydd.

Yn ystod y cyfnod clo roedd y cwpl Brenhinol wedi bod yn chwarae bingo gyda thrigolion y cartref dros y we.

Mewn datganiad dywedodd Hallmark Care Homes sydd yn gyfrifol am Gartref Gofal Shire Hall ei bod hi’n “anrhydedd fawr” iddynt groesawu Dug a Duges Caergrawnt i’r cartref yng Nghaerdydd.

‘Ansensitif’

Ond dywedodd Rhys ab Owen Thomas wrth Golwg360 fod yr ymweliad yn “ansensitif”:

“Dwi’n credu eu bod nhw wedi bod yn hynod ansensitif gyda’r ymweliad yma”, meddai.

“Dwi ddim yn feirniadol bod dau aelod o’r teulu brenhinol wedi cael ymweld, ond yn feirniadol bod dau berson wedi gallu mynd yno tra rydym ni fel teulu methu mynd.

“Does gen i ddim byd ond canmoliaeth am y gofal, ac nid beirniadu’r cartref ydw i, mae’r gweithwyr wedi bod yn wych drwy gydol y cyfnod anodd hwn.”

Eglurodd i’r cartref ailagor ar gyfer ymweliadau ddiwedd fis Mehefin, ond bod y cartref wedi gorfod cau ar fyr rybudd oherwydd achos o’r feirws ar y safle.

E-bost

“Am resymau dealladwy iawn cawsom ebost ar Orffennaf 10 yn dweud bod y cartref yn cau am 28 diwrnod, a bod dim ymweliadau yn ystod y cyfnod hwnnw,” meddai Rhys ab Owen.

“Golygai hyn nad oedd modd i ni weld fy nhad tan ddydd Gwener [Awst 7], ac wedyn ddoe [Awst 5] cawsom ebost yn dweud fod Dug a Duges Caergrawnt wedi bod yno.

“Dwi’n gwybod mai dim ond ychydig ddiwrnodau yw e, ond mae diwrnodau yn werthfawr iawn yn ystod y cyfnod yma, does neb yn gwybod pryd ddaw’r cyfyngiadau llym yn ôl.

“Dwi’n siŵr byddai’n well gan nifer o’r preswylwyr weld eu teuluoedd na’r teulu brenhinol.”

Camddealltwriaeth?

Eglurodd Karen Grapes, Rheolwr Cartref Gofal Shire Hall, wrth Golwg360 fod y cartref yn caniatáu ymweliadau y tu allan.

Cadarnhaodd y rheolwr y bu rhaid cau rhan o’r cartref ar ôl i un o o aelodau o staff y cartref brofi’n bositif am y feirws fis diwethaf.

“Mae gennym ni bedwar ‘cymdeithas’ yng Nghartref Gofal Shire Hall, sy’n cael eu cadw ar wahân”, meddai.

“Gan ddilyn y canllawiau – os bydd achos cadarnhaol o fewn cymuned bydd y gymuned honno yn cael ei chau am 28 diwrnod – daeth y 28 diwrnod yn yr achos yma i ben ar Awst 4.

“Rwy’n credu bod yna ychydig o gamddealltwriaeth wedi bod ar ôl i ni gysylltu â’r teuluoedd oedd wedi’u heffeithio.

“Roedd y cyfnod yma yn dechrau ar ddyddiad y prawf ac nid o ddyddiad y canlyniad.”

Canllaw Llywodraeth Cymru i Gartrefi Gofal

Fis Mawrth, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at bob darparwr cartref gofal er mwyn cyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal a hynny er mwyn lleihau ymlediad y coronafeirws.

Ar Fehefin 1 daeth newidiadau i’r rheoliadau ac am y tro cyntaf roedd gan bobol o un aelwyd yr hawl i  gyfarfod yn yr awyr agored â phobol o un aelwyd arall.

Yn dilyn y newidiadau i’r rheoliadau, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at bob darparwr cartref gofal yn rhoi’r cyngor iddynt sut i hwyluso ymweliadau awyr agored yn ddiogel o dan y rheoliadau presennol.

Fe’i diweddarwyd ar Fehefin 16 gan y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, nad yw hi’n ofynnol i ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb pan gynhelir ymweliadau yn yr awyr agored, a phan fo canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Er hyn roedd y Prif Swyddog Meddygol wedi cynghori pobol oedd yn agored i niwed i wisgo mygydau, ond nid yw hyn yn ofynnol.