Mae Bro360 yn gynllun gan gwmni Golwg i greu rhwydwaith o wefannau bro. Mae’r tîm wedi cydweithio â chymunedau yn Arfon a Cheredigion i greu gwefannau bro – y lle ar y we i’r lleisiau lleol. Ac mae un wefan newydd wedi’i hychwanegu i’r rhwydwaith, sef Caron360. Aeth gwefan Tregaron a’r cylch yn fyw mewn sesiwn gyda’r criw lleol ddiwedd Gorffennaf, a blas o fideos, blogs a straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr honno sy’n llenwi’r golofn yr wythnos hon…
Tregaron. Twll o le?
Tregaron. Cartref Eisteddfod Genedlaethol 2020… i fod. Ond mae Tregaron yn rhy fach ac anghysbell i gynnal Eisteddfod! A dyw’r hewlydd a’r tir ddim yn ffit, wir!
Dewch ar daith o gwmpas y dref gyda dwy o brif swyddogion Ysgol Henry Richard. Mae’r fideo’n chwalu’r ddelwedd taw “twll o le yw Tregaron i gynnal Eisteddfod”, ac mae’n siŵr o roi gwên ar wyneb pawb sy’n byw yng nghefn gwlad.
Gwylio: Caron360
Seiclo o Sandringham i Aberystwyth…
Roedd Sian Downes o Langeitho newydd orffen gweithio fel bugail ar ystâd Sandringham. Ond yn lle gyrru adre, penderfynodd hi a thri ffrind seiclo’r holl ffordd i Aberystwyth, er mwyn codi arian i Ysbyty Arch Noa, ac mae’n rhannu’r stori ar eu gwefan fro.
Er mai ond ers rhai wythnosau mae gwefan Caron360 yn fyw, mae pum stori am ymdrechion lleol i godi arian arni’n barod. Pwy ddywedodd bod y Cardis yn dynn?
Darllen mwy: Caron360.cymru
Wynebau cyfarwydd i’r Orsedd
Ymysg yr enwau newydd i gael eu derbyn i’r Orsedd mae pum person gweithgar o ardal Tregaron. Er na fyddant yn derbyn eu hanrhydeddau eleni, mae’n gyfle i nodi eu llwyddiant ac edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn eu milltir sgwâr yn 2021. Nest Jenkins sydd ag ychydig o hanes Rhiannon, Wynne, Huw, Cyril ac Anne.
Darllen mwy: Caron360
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Anrhydeddu Pencampwraig y Peli, Gog Gweithgar a Chloncen Brysur gan Dylan Lewis ar Clonc360
- Twll o le? gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360
- Bwyty Hwngaraidd Newydd Aberystwyth gan Mererid Boswell ar BroAber360