Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bydd unrhyw un sy’n dod i Gymru o Wlad Belg, Andorra a’r Bahamas yn wynebu cyfnod cwarantin o 14 diwrnod.
Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Ddoe (dydd Mercher), mynychais gyfarfod gyda Weinidogion o bedair gwlad y DU i ystyried y risg i iechyd y cyhoedd a achosir gan achosion cynyddol o Covid-19 yn Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg.
“Ar ôl ystyried y dystiolaeth o ran y risg i iechyd y cyhoedd a berir nawr gan deithwyr sy’n dod i’r DU o’r mannau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach heddiw yn tynnu Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio o’n mesurau iechyd ar y ffin.
“Ar y cyd â Gweinidogion eraill y DU, rwyf hefyd wedi ystyried y risg i iechyd y cyhoedd a achosir gan lai o achosion o Covid-19 yn Brunei a Malaysia.
“O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ddiweddarach heddiw yn ychwanegu Brunei a Malaysia at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio o’n mesurau iechyd ar y ffin.”