Mae dyn 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod wedi tân mewn tŷ yn Rhiwabon ger Wrecsam.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r tŷ am 12.26yb bore ma (Dydd Iau, Chwefror 11) lle daethon nhw o hyd i gorff y ddynes.

Roedd y ddynes wedi marw yn y fan a’r lle ac mae’r heddlu wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth.

Mae’r dyn 25 oed gafodd ei arestio yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Dywedodd y Prif Arolygydd Neil Maxwell: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r ddynes. Fe fydd rhagor o swyddogion yr heddlu ar batrôl yn ardal Rhiwabon bore ma yn cynnal ymchwiliadau.

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth cysylltwch â ni ar 101.”