Mae’r ail ddos o’r brechlyn yn cael ei gyflwyno’n arafach yng Nghymru na gweddill Gwledydd Prydain medd AoS Ceidwadol Gogledd Cymru, Mark Isherwood.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (dydd Mercher, Chwefror 10) fod 655,419 wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn a bod 3,687 wedi derbyn yr ail ddos.

Ffigurau diweddaraf ail ddos o’r brechlyn:

  • 1 o bob 68 o bobol yng Ngogledd Iwerddon
  • 1 o bob 119 o bobol yn Lloegr
  • 1 o bob 454 o bobol yn yr Alban
  • 1 o bob 909 o bobol yng Nghymru

Ac er bod Mark Isherwood AoS yn canmol gwelliannau i’r broses o frechu yng Nghymru, mae wedi rhannu ei bryder am y bwlch rhwng gweinyddu ail ddos y brechlyn yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain.

Yn ystod cyfarfod llawn o’r Senedd wythnos yma cwestiynodd y ffigurau diweddaraf.

“Fe wnaethoch gyfeirio at ail frechlynnau. Credaf fod y ffigurau diweddaraf yng Nghymru yn un o bob 909 o bobol; yn Lloegr mae’n un o bob 119 o bobol.

“Felly, mae bwlch o hyd, ond er fy mod i’n cydnabod bod y ffigwr yng Nghymru wedi gwella’n sylweddol sut fyddwch yn sicrhau bod y broses o gyflwyno’r ail frechlyn yn canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth, ac nad yw’n rhoi’r rhaglen frechu gyntaf dan anfantais?”

‘Cymhariaeth gamarweiniol’

Yn ei ymateb, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod y cymariaethau â Lloegr yn “gamarweiniol”.

Eglurodd y gall Cymru “ddisgwyl gweld nifer cynyddol o ail ddosau yn digwydd yn yr wythnosau i ddod.”

Prif Weithredwr y GIG yn rhannu pryderon am amrywiolyn Caint

Iolo Jones

“Mi all llawer o’n gwelliannau ni cael eu gwrthdroi yn eitha’ cyflym,” meddai Dr Andrew Goodall