Mi fyddai’n “broblem go iawn” pe bai’r gofidion am ‘amrywiolyn Caint’ yn dod yn wir, yn ôl Prif Weithredwr GIG Cymru.

Wrth annerch y wasg brynhawn heddiw dywedodd Dr Andrew Goodall bod sefyllfa’r gwasanaeth iechyd yn “parhau’n ansicr” ond bod arwyddion o welliant o ran yr argyfwng.

Roedd cryn sôn hefyd am amrywiolyn Caint. Dywedodd bod hyd at hanner achosion de Cymru yn gysylltiedig â’r straen, a bod y canran yn uwch na hynny yng ngogledd Cymru.

Mae yna bryderon bod yr amrywiolyn yma yn gyfrifol am lefelau uwch yn y gogledd, ac mi rannodd yr uwch swyddog ei bryderon am y straen.

“Y pryder pennaf am amrywiolyn Caint, o gymharu â mwtaniadau eraill sydd yn mynd rhagddynt, yw’r dystiolaeth ei fod yn lledaenu’n haws,” meddai.

“A byddai hynny yn broblem i ni go iawn. Pe bai’n cael gafael ar Gymru yn gyflym – ac o ystyried sut dw i wedi disgrifio y GIG – all llawer o’n gwelliannau ni cael eu gwrthdroi yn eitha’ cyflym.

“Felly mae’n bwysig ein bod yn dal i ymchwilio iddo.”

Roedd sôn hefyd am amrywiolyn straen arall sydd yn destun gofid, sef De Affrica.

Dim ond 15 achos ohono sydd wedi’i gofnodi yng Nghymru hyd yma, ac roedd yr uwch-swyddog yn llai gofidus amdano.

Yr ystadegau diweddaraf

Mae tua 110 achos i bob 100,000 person yng Nghymru erbyn hyn – lefel “sylweddol is o gymharu â’r anterth ym mis Rhagfyr”, yn ôl Dr Andrew Goodall.

Er hynny, mae yna ardaloedd yng ngogledd Cymru lle mae nifer yr achosion yn parhau i fod yn 200 i bob 100,000.

Mae lefel y pwysau ar y GIG yn cael ei rhannu’n bedair, gyda phedwar yn cynrychioli’r lefel uchaf. Mae yna wyth ysbyty yng Nghymru sydd naill ai yn lefel tri neu bedwar, ac mae dau yn y lefel uchaf.

Ar hyn o bryd mae yna 2,200 o gleifion covid yn ysbytai Cymru – sydd 25% yn is o gymharu â lefel yr anterth ym mis Ionawr.

Mae 84 o bobol â covid yn derbyn gofal critigol, ac mae 177 mewn unedau gofal critigol.

Ystadegau dyddiol

Cofnodwyd 323 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 197,344.

Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 21 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm yn y wlad ers dechrau’r pandemig i 5,032.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 655,419 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’u rhoi, cynnydd o 26,659 o’i ddiwrnod blaenorol.

Dywedodd yr asiantaeth fod 3,687 o ail ddosau wedi’u rhoi hefyd, cynnydd o 196.