Dylai Prif Weinidog Cymru wneud tro pedol a blaenoriaethu pobol ag anableddau dysgu oddi fewn i’r rhaglen frechu, yn ôl AoS Plaid Cymru.
Mae’r boblogaeth wedi eu rhannu mewn i gyfres o grwpiau blaenoriaeth gwahanol, ac mae’r Llywodraeth yn gobeithio brechu’r pedwar grŵp cyntaf erbyn canol y mis.
Ymhlith y pedwar grŵp yma mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, pobol dros 80 oed, a gweithwyr a phreswylwyr cartrefi gofal pobl hŷn.
Dyw hyn ddim yn cynnwys cartrefi gofal i bobol ag anableddau dysgu, a phrynhawn ddydd Mawrth, gerbron y Senedd, wnaeth Delyth Jewell AoS holi’r Prif Weinidog ynghylch newid y drefn yma.
Dywedodd Mark Drakeford nad oedd modd iddo wneud hynny oherwydd byddai’r cam yn mynd yn groes i argymhellion y JCVI (Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu).
Ond rhyw awr yn ddiweddarach, ac yn ystod yr un sesiwn, wnaeth ei Weinidog Iechyd ddweud y byddai’n newid lefel blaenoriaeth meddygon yr heddlu – yn groes i gyngor JCVI.
“Mae’n honni nad oes modd addasu cyngor y JCVI, ond mae ei Weinidog Iechyd ei hun wedi gwrthddweud hynny’n llwyr,” meddai Delyth Jewell.
“Mae yntau wedi cadarnhau ei fod wedi symud meddygon yr heddlu i Grŵp Blaenoriaeth 2 am nad yw cyngor JCVI ‘bob tro yn adlewyrchu ffactorau unigryw ym mhob un maes’.
“Dyma draed moch llwyr. Mae gan y Prif Weinidog gwestiynau difrifol i’w hateb, ond mae’n rhaid iddo ddechrau trwy wneud tro pedol ac amddiffyn pobol ag anableddau dysgu difrifol rhag Covid.”
Ffigurau’r sefyllfa
Yn ôl elusen Mencap, mae yna 3,500 o bobol yng Nghymru sydd gydag anabledd dysgu ac sydd yn byw mewn cartref gofal.
Gerbron y Senedd, fe wnaeth Delyth Jewell dynnu sylw at y ffaith bod 34,000 o frechlynnau wedi’u darparu yng Nghymru ar ddydd Sadwrn yn unig.
Mae pobol sydd ag anableddau dysgu chwe gwaith yn fwy tebygol o farw o Covid, yn ôl ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Cwestiwn Delyth Jewell
Darllen mwy
Gallwch ddarllen mwy am y galwad i flaenoriaethu brechu pobol ag anableddau dysgu yn Golwg yr wythnos hon, isod.