Mae’r cyflwynydd pêl-droed, Dylan Ebenezer, wedi talu teyrnged i’w “gydweithiwr, ffrind ac arwr,” Dai Davies.

Bu farw cyn-golwr tîm pêl-droed Cymru yn 72 oed ar ôl brwydro canser y pancreas.

“Roedd hi’n fraint gweithio gyda Dai, mi oedd yn gawr o ddyn, yn ŵr bonheddig, yn gymeriad cyfeillgar, a wastad yn hynod gefnogol,” meddai Dylan Ebenezer.

“Un o’n hatgofion cynta’ i ydy mynd i wylio Arsenal ar y Vetch gyda Dad, a Dai yn dod draw i siarad gyda ni cyn y gêm!

“Oedd y chwaraewyr ar y cae ar ganol cynhesu fyny, a dyma fe’n dod draw, o’n i’n gegagored methu credu’r peth.

“Yn anffodus aeth Abertawe ymlaen i ennill y gêm – ond yr unig beth dw i’n cofio o’r diwrnod yna ydy Dai Davies yn dod draw i siarad â ni, ac o’n i’n teimlo fel cawr yn hunan bod y cymeriad tal enfawr yma wedi dod i ddweud helo, oedd yr holl beth yn hollol afreal.”

Cymro balch

Cynrychiolodd Cymru ar 52 achlysur a chwaraeodd i Abertawe, Everton, Wrecsam, Tranmere Rovers a Bangor yn ystod ei yrfa.

Roedd yn Gymro balch ac fe gafodd ei urddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 1978 ac mae cof plentyn gan Dylan Ebeneser o’r gŵr o ardal Glanaman yn ymweld ag ysgolion.

“Dw i’n cofio Dai yn dod i Ysgol Gymraeg Aberystwyth, bron iawn yn cenhadu, yn dangos i bobol fod Cymry Cymraeg yn gallu llwyddo, mae’n teimlo’n od nawr ond ar y pryd roedd lot o’r tîm rygbi yn siarad Cymraeg, ond prin iawn oedd yn y tîm pêl-droed.

“Y mwya’ dw i’n meddwl am y peth fi di bod yn dilyn e ar hyd fy mywyd gan fynd ymlaen i weithio naill ochr ar Sgorio a Gôl cyn hynny.”

‘Dai y pyndit dadleuol’

Ar ddechrau ei yrfa bu Dylan Ebenezer yn cydweithio â’r “pyndit dadleuol” Dai Davies ar raglen gylchgrawn Gôl oedd yn cael ei ddarlledu ar brynhawn Sul.

“Ma’ pyndit dadleuol yn gyffredin iawn dyddiau ‘ma, ond doedden nhw ddim adeg hynny,” eglurodd.

“Oedd Dai yn gwneud pethau weithiau ac o’ch chi jyst yn iste yna yn tynnu’ch gên chi oddi ar y llawr!

“Doedd o ddim yn un i eistedd ar y ffens a doedd e ddim yn un i ddal nôl – dweud ei ddweud, a dyna beth oedd ei angen.

“Mi oedd hi’n fraint gweithio gyda fe mi oedd Dai eisiau gwybod amdanoch chi, yn poeni amdanoch chi fel person, eisiau gwybod sut oeddech chi, sut oedd y teulu ac os oeddech chi’n hapus.

“Oedd e mor gefnogol yn bopeth oeddech chi’n gwneud ac eisiau eich helpu, ac oedd hynny’r un mor wir tra’n gweithio ar Sgorio.

“Fi yn cofio pan aeth Wrecsam i Wembley yn erbyn Grimsby, ac ath hi i giciau cosb ac o chi’n gallu gweld ei fod e’n golygu lot iddo fe bod Wrecsam yn gwneud yn dda.

“Dyma hefyd oedd un o droeon cyntaf Owain Tudur Jones yn sylwebu, a fuodd Dai yn treulio amser yn helpu ac yn egluro bob dim iddo.

“Yn ddiweddarach, wrth gwrs, byddai Dai yn chwarae’r gêm, yn troi at Owain Tudur Jones ac yn gofyn ‘Be ti moen bod heddi good cop neu bad cop?’.

“Mi oedd e’n gwneud pethau weithiau i sicrhau bod y rhaglen yn mynd yn dda – boed yn ddadleuol neu beidio.”

‘Heddwch ysbrydol’

Ar ôl ymddeol o bêl-droed bu Dai Davies yn cynnal clinig iechyd naturiol yn Llangollen, ac mae Dylan Ebenezer yn cofio ymweld â’r cyn-golwr yno gyda chriw Sgorio.

“Yn ei gyfnod e, roedd Abertawe yn yfwyr mawr a dwi’n cofio Dai yn dweud fod John Toshack wedi rhoi dirwy iddo ar ôl gwrthod mynd allan i yfed gyda’r tîm!

“Ac yn y ganolfan, dyma fe’n gwneud triniaeth reiki arna i, oedd yr holl beth swreal iawn, ac mi o’n i mewn trans am ddyddiau ar ôl ’ny.

“Mi oedd yn ddyn diddorol iawn, mi oedd heddwch ysbrydol yn bwysig iawn iddo ar ôl ei gyfnod yn chwarae … a thra’n sâl – roedd bron fel petai mewn heddwch â’i hun.”

Dai Davies, cyn-golwr Cymru, wedi marw’n 72 oed

“Roedd Dai yn llysgennad enfawr i iaith a diwylliant Cymru,” medd Ian Gwyn Hughes ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru