Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £9.8m ychwanegol i geisio dileu rhwystrau i addysg dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol oherwydd Covid-19.

Er bod ysgolion wedi bod ynghau ers y Nadolig mae ysgolion arbennig wedi gallu aros ar agor drwy gydol y pandemig.

Bydd £8.8m yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol ac ysgolion arbennig, ac £1m i bobol ifanc mewn addysg bellach.

Gellir defnyddio’r cyllid i fynd i’r afael ag oedi mewn asesu, ariannu staff ychwanegol, costau meddalwedd arbenigol, therapi galwedigaethol, a chymorth iechyd meddwl.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gynnig y brechlyn i staff sy’n darparu gofal personol i’r dysgwyr mwyaf agored i niwed fis Chwefror.

‘Dychwelyd i’w siwrnai ddysgu’

Mae ymchwil yn dangos bod y pandemig wedi cael effaith ar blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, a bod rhai plant ar eu colled yn addysgol oherwydd cymhlethdod eu hanghenion.

“Mae Covid-19 wedi creu heriau i’n holl ddysgwyr, ond yn enwedig y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, eu teuluoedd. a’r staff sy’n eu cefnogi,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu pobol ifanc i ddychwelyd i’w siwrnai ddysgu neu ddechrau arni. Mae’n cynnwys cymorth i bobl ifanc mewn addysg bellach, drwy eu helpu i gwblhau eu cyrsiau eleni a symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu bywydau fel oedolion.”