Mae trigolion wedi dweud eu bod yn teimlo fod eu cartrefi’n “ddiwerth” gan fod materion strwythurol ar adeiladau ledled Prydain heb eu datrys o hyd yn sgil tân Tŵr Grenfell yn 2017.

Mae trigolion adeiladau’n wynebu costau “enfawr” i drwsio cladin ac ymdrin a materion diogelwch, ac maent yn ofni methdaliad ac achosion o dân.

Un enghraifft yw Rebecca Ashwin, 40, sy’n byw gyda’i phartner 26 oed, Jack Sandrey, yn Victoria Wharf, Caerdydd.

Maent wedi gweld eu hyswiriant yn cynyddu “10 gwaith” i fwy na £600,000 ar ôl i’w bloc “fethu” profion wal allanol, gan gael gradd ‘B2’.

Gweithiodd y pâr bum swydd i brynu’r fflat ym mis Mawrth 2019 ond maent eisoes wedi wynebu costau o £3,000 ar yswiriant ac ar osod larymau tân newydd.

Eglurodd Rebecca Ashwin, sy’n weithiwr yn y sector cyhoeddus, oni bai bod adeiladau’n sicrhau ffurflen ‘EWS1’, neu ffurflen Adolygu Wal Allanol, nad yw pobl yn gallu prynu na gwerthu cartrefi.

Dywedodd fod perchnogion tai yng Nghymru yn “llithro drwy’r craciau”, gyda Llywodraeth Cymru yn “araf iawn i ymateb” i’r mater.

“Gyda’r cyfyngiadau clo mae’r ddau ohonom yn gweithio gartref felly rydyn ni’n gyson yn ein fflat peryglus, sy’n ffynhonnell yr holl bryder hwn,” meddai.

Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi pres ychwanegol

Ddydd Mercher (Chwefror 10), cyhoeddodd Ysgrifennydd Tai Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Robert Jenrick, £3.5 biliwn arall i helpu i roi terfyn ar y “sgandal cladin”.

Bydd yr arian yn mynd tuag at helpu i dalu am waith atgyweirio ar adeiladau uchel – caiff benthyciadau eu cynnig i breswylwyr mewn adeiladau llai.

Ond mae grŵp End Our Cladding Scandal wedi disgrifio’r mesurau cymorth newydd fel rhai “siomedig”, gan ddadlau y dylai’r Llywodraeth “ariannu o flaen llaw” y gost o adfer yr holl faterion – ac yna ceisio hawlio costau gan adeiladwyr a datblygwyr.

Dywed y grŵp hefyd na ddylid ystyried uchder adeiladau yn hyn o beth.

Disgrifiodd Ms Ashwin gyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel “mesur hanner ffordd”, gan ddadlau y dylai’r gefnogaeth fod i bob deiliad prydles lle bynnag y maent yn byw ac y dylai datblygwyr fod yn “atebol”.

“Mae pawb yn yr un sefyllfa – yn wynebu perygl, yn wynebu methdaliad a chostau, ac ni ddylai uchder yr adeilad effeithio ar hynny,” meddai.

Ychwanegodd fod y mesurau diweddaraf yn “fradychiad enfawr o bobl mewn fflatiau o dan 18 metr”, gan ychwanegu bod pobol wedi cael eu “siomi a’u gadael ar ôl gan bawb a ddylai fod yn gweithio i’n hamddiffyn”.

Dywedodd Natasha Letchford, ymgyrchydd dros grŵp End Our Cladding Scandal, na fyddai’n mynd yn ddigon pell i ddatrys pob mater, gan dynnu sylw at amcangyfrifon sy’n rhoi cyfanswm y bil mor uchel â £15 biliwn.

“Rydyn ni’n croesawu mwy o arian, ond y realiti yw na fydd yn gwneud adeiladau’n ddiogel ac ni fydd, dydyn ni ddim yn meddwl, yn rhyddhau’r farchnad dai,” meddai.

“Cyn belled â bod biliau heb eu talu ar yr eiddo hyn, byddant yn ddiwerth ac ni fydd pobl am eu prynu. Rwy’n credu, yn y bôn, na fydd yn mynd yn ddigon pell.”

Llywodraeth Cymru

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i addo cael gwared ar yr holl gladin anniogel o gartrefi a blociau tŵr – a hynny heb godi tâl uniongyrchol ar berchnogion cartrefi.

Amcangyfrifir bod 148 o adeiladau preswyl uchel yng Nghymru, ac y nodwyd bod gan nifer ohonynt gladin y dylid ei ddisodli – y rhan fwyaf yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:

“Dair blynedd a hanner ar ôl y tân dinistriol yn Grenfell mae’n destun pryder bod cymaint o eiddo yng Nghymru yn dal mewn perygl oherwydd cladin anniogel.

“Nid yw llawer o bobl sy’n byw mewn eiddo uchel ledled Cymru yn teimlo’n hyderus bod eu heiddo yn ddiogel, ac maent yn poeni am risgiau tân.

“Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru weithredu i wneud y cartrefi hyn yn ddiogel.”

Galw ar Lafur i egluro sut y gwariodd £58 miliwn

Yn y cyfamser, mae Laura Anne Jones AoS – Llefarydd Tai Cysgodol y Ceidwadwyr – wedi galw ar Lafur i egluro sut cafodd arian sydd eisoes wedi’i ddyrannu i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wario.

Dywedodd fod tua £58 miliwn ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru i helpu perchnogion tai a deiliad prydles i dalu am waith adfer i adeiladau uchel gyda chladin.

“Ddiwedd y llynedd, gofynnodd y Ceidwadwyr Cymreig i’r Gweinidog Tai am ymateb manwl ar sut roedd y £58m yn cael ei wario, ac a fydd deiliad prydles a pherchnogion tai yn cael eu digolledu am waith adfer, fel sy’n digwydd yn Lloegr, ond roedd ymateb y gweinidog Llafur yn ddiystyriol – ‘Nid yw arian a dderbyniwyd fel arian canlyniadol o Gyllideb y Deyrnas Unedig wedi’i neilltuo i’w wario at yr un diben yng Nghymru’,” meddai.

“Bydd deiliad prydles, perchnogion fflatiau, a’r rhai sy’n rhentu’r eiddo wedi canfod ymateb Llafur yn annerbyniol, yn ddi-fudd ac yn afresymol, ac ni fydd wedi gwneud dim i leddfu eu pryderon a’u pryderon.

“Mae’n rhaid i Lafur egluro’r sefyllfa, a manylu ar sut mae’r arian ar gyfer y gwaith adfer hanfodol hwn yn cael ei wario.”

Llywodraeth Cymru wedi “buddsoddi £10m eleni ac wedi ymrwymo £32m pellach”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Heddiw, mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig Robert Jenrick i ofyn am eglurhad brys am agweddau ar y cyhoeddiad a wnaed heddiw.

“Rydym yn gofyn am eglurhad ar amrywiaeth o fanylion gan gynnwys lefel y cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i’r cyhoeddiad.

“Mae agweddau ar y cyhoeddiad heddiw, yn benodol, treth adeiladwyr tai, heb eu datganoli.

“Mae’r Gweinidog wedi gofyn am gadarnhad brys y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos gyda ni i sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu ar sail addas i Gymru a Lloegr.

“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi lesddeiliaid a sicrhau bod adeiladau’n cael eu gwneud yn ddiogel; rydym wedi buddsoddi £10m eleni ac wedi ymrwymo £32m pellach y flwyddyn ariannol nesaf.

“Rydym yn glir ein barn o hyd nad ydym yn credu y dylai lesddeiliaid orfod talu am wneud iawn am y problemau hyn.”