Mae sylwadau diweddar gan Boris Johnson wedi esgor ar ymateb tanllyd gan rai o ffigyrau gwleidyddol amlycaf Cymru.

Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog brynhawn heddiw, mi ofynnodd AS Plaid Cymru gwestiwn am gynlluniau ‘ymchwil a datblygu’ (research and development neu R&D) Llywodraeth San Steffan.

O holl wledydd y Deyrnas Unedig, Cymru sy’n derbyn y lefel isaf o fuddsoddiad R&D y pen – mae’r wlad hon yn derbyn tua 40% y gwariant y pen sy’ yn Lloegr.

Mi dynnodd Liz Saville Roberts sylw at hyn gerbron senedd San Steffan, a gofynnodd i’r Prif Weinidog a fyddai’n ymrwymo i sicrhau tegwch o ran y gwariant yma.

Yn ei ateb yntau dywedodd Boris Johnson fod Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd i fod yn gartref i “un o’r canolfannau cynhyrchu batris gorau yn y wlad hon – os nad y byd.”

Cefnodd cwmni Britishvolt ar y cynlluniau yna ym mis Rhagfyr y llynedd, gan ddewis safle yng ngogledd Lloegr yn lle.

O’r herwydd, yn ddigon naturol, mae’r ateb yma wedi ennyn cryn feirniadaeth.

Yr ymateb o Gymru

Cyllid i ddatblygu technoleg newydd a syniadau newydd yw arian ‘ymchwil a datblygu’, ac felly mae Liz Saville Roberts yn gweld sylwadau Boris Johnson yn eironig.

“Efallai bod y Prif Weinidog yn gwybod rhywbeth nad ydw i’n ei wybod,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, ar ôl y sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Fel arall, trwy dynnu sylw at brosiect a gollodd allan i safle yn Lloegr, mae o wedi profi fy mhwynt – dan San Steffan mae Cymru yn colli allan yn barhaus o ran arian R&D.”

Mae’r Blaid Lafur yn ystyried y sylw yn ansensitif, ac mae Nia Griffith, Ysgrifennydd Cysgodol Cymru, wedi ceryddu Boris Johnson.

“Mae’n hollol annheg bod y Prif Weinidog wedi bod mor ddifeddwl â’i eiriau, yn enwedig o ystyried bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi wynebu cymaint o ergydion o’i achos ef.

“Mae’r gymuned yn dal i deimlo’r poen wedi i ffatri Ford gau, ac wedi iddi golli prosiect Ineos i Ffrainc. Dyw hyn jest ddim yn ddigon da.”

Arweinwyr undebau wedi’u drysu

Mae arweinwyr undebau wedi gofyn am eglurhad brys am honiad Prif Weinidog Prydain.

Dywedodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite Cymru: “Mae sylwadau’r Prif Weinidog heddiw ynglŷn â Phen-y-bont ar Ogwr yn newyddion i bawb yng Nghymru.

“Dywedwyd wrthym nad yw Britishvolt yn bwrw ymlaen â’u cynlluniau ar gyfer Sain Tathan, ac eto mae’r Prif Weinidog bellach yn dweud y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn ganolfan fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu batris.

“Ein cwestiwn i Boris Johnson yw beth mae’r datganiad hwn yn seiliedig arno.

“Naill ai mae’r Prif Weinidog angen newyddion da i genedl Cymru… neu mae wedi gwneud camgymeriad enfawr a chael ei ffeithiau’n anghywir.

“Pa un yw hi?”

Yn ddiweddarach, dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog wrth y BBC y byddai’n gwirio sylwadau Mr Johnson gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Y cwestiwn a’r ateb

Mi holodd Liz Saville Roberts ei chwestiwn tua dechrau’r sesiwn yn y siambr.

“Mae’r Llywodraeth yn honni bod ganddyn nhw agenda i uwchraddio pob un rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai, “ac yn sail i hynny mae’r Map Trywydd Ymchwil a Datblygu.

“Y broblem sydd gennym ni yw bod y Torïaid wedi gwneud jobyn gwael o hyn yn hanesyddol. A dweud y gwir, maen nhw wedi gwneud jobyn sobor o wael ohoni.”

“A fydd e’n ymrwymo yn awr i sicrhau setliad cyllid R&D tecach a datganoledig i’r Senedd,” meddai wedyn, “neu a yw’n hapus â map San Steffan a fydd yn arwain Cymru at nunlle?”

Yn ymateb i hynny dywedodd Boris Johnson bod yr AS Plaid Cymru “yn cyfleu dirmyg ar Gymru, ei phobol, a’u dychymyg.”

“Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd i fod yn gartref i un o’r canolfannau cynhyrchu batris gorau yn y wlad hon – os nad y byd,” meddai.

“Mae Cymru ar y blaen yn dechnolegol dan gynlluniau’r Llywodraeth i wario £22bn erbyn diwedd tymor y senedd yma – mae hynna’n record.

“Bydd Cymru, ynghyd â’r Deyrnas Unedig gyfan, yn elwa’n fawr.”

“Hen dric” Plaid Cymru

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, wedi rhannu ei farn am y mater gan ochri â Boris Johnson, wrth gwrs, ar gyfryngau cymdeithasol.

“Does gan y Prif Weinidog ddim awydd i adael Plaid Cymru wneud eu hen dric arferol o ladd ar Gymru,” meddai.

“Mae yna lawer o obaith, gweithredu, ac uchelgais oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth i ni uwchraddio pob un rhan o’r Deyrnas Unedig.”