Mae’r honiadau mai diffyg gwelliannau i’r M4 arweiniodd at benderfyniad biliwnydd o Brydain i atal cynlluniau ar gyfer ffatri ceir newydd wedi cael eu galw’n “nonsens ar stilts” gan Weinidogion yr Economi, Ken Skates.

Mae Ineos Automotive yn ystyried rhoi terfyn ar ei gynllun i adeiladu ffatri geir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle’r oedd cerbyd newydd o’r enw Grenadier i fod i gael ei gynhyrchu gan ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Yn lle hynny, mae’r cwmni, sy’n cael ei redeg gan y biliwnydd a’r brecsitiwr, Syr Jim Ratcliffe, mewn trafodaethau gyda Mercedes-Benz i brynu ffatri Hambach yn Moselle, Ffrainc.

Roedd tua 200 o swyddi i fod i gael eu creu i ddechrau, ond y disgwyl oedd y byddai hynny’n cynyddu i 500 yn y dyfodol.

Roedd ffatri Pen-y-bont ar Ogwr i fod i gael ei hadeiladu wrth ymyl y ffatri fawr Ford, sy’n cau’r Hydref hwn gyda 1,700 o swyddi yn cael eu colli.

Simon Hart

Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, oedd wedi dweud wrth aelodau Senedd San Steffan fod penderfyniad Ineos yn gysylltiedig ag “anallu neu amharodrwydd” Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau i’r draffordd.

Ond disgrifiodd Ken Skates yr honiad hwnnw fel “nonsens ar stilts”.

“Siomedig tu hwnt”

“Mae unrhyw awgrym bod penderfyniad yr M4 wedi dylanwadu ar Ineos yn ddim byd mwy na nonsens ar stilts,” Dywedodd Mr Skates wrth y Senedd.

Ken Skates

“Y gwir amdani yw bod penderfyniad yr M4 wedi’i wneud yn haf 2019 a sicrhawyd y cytundeb Ineos yn Hydref 2019.

“Mewn pedair blynedd o drafodaethau gyda’r cwmni, ni chodwyd yr M4 ar unrhyw achlysur.

“Mae’r un mor gredadwy â honiad bod penderfyniad Ineos wedi’i ddylanwadu gan fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i drydaneiddio prif reilffordd de Cymru.

“Y gwir amdani yw bod safle wedi dod ar gael yn Ffrainc yn hwyr iawn yr wythnos ddiwethaf ac mewn cyfnod byr iawn penderfynodd y busnes fynd i Ffrainc yn hytrach nag aros yng Nghymru.

“Byddwn yn ceisio adennill y £4 miliwn sydd wedi ei wario hyd yma. Mae posibilrwydd bach iawn o hyd y bydd yn dal i ddod i Gymru… ond byddai angen i’r fargen yn Ffrainc ddisgyn drwodd.

“Byddwn ni’n mynd ati i weithio i sicrhau bod cymaint o gyfleoedd gwaith â phosib yn dod i gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr a’r cylch.”

Dywedodd Mr Skates ei fod yn “siomedig tu hwnt” gyda’r penderfyniad gan fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi “amser, egni ac arian yn y busnes hwn”.

“Cyfrifoldeb ychwanegol” i fuddsoddi yn y DU

Awgrymodd y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, sy’n cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr, fod gan fusnesau sy’n gefnogol i Brexit “gyfrifoldeb ychwanegol” i fuddsoddi yn y DU.

Carwyn Jones o flaen meicroffon
Carwyn Jones

“A ydych yn cytuno â mi y dylai’r rhai sy’n teimlo’n angerddol dros Brexit fod yn ddig am yr hyn sydd wedi digwydd yma, gan fod hyn yn tanseilio eu cred angerddol y bydd y Deyrnas Unedig yn well y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd?,” gofynnodd Mr Jones.

Atebodd Ken Skates: “Rwy’n cytuno’n llwyr â Carwyn Jones ac rwy’n dweud bod y penderfyniad hwn yn peri penbleth, braidd, o ystyried bod y busnes dan sylw yn gefnogwr Brexit ac nid oes amheuaeth o gwbl bod Brexit yn gwneud niwed aruthrol i’r diwydiant modurol a’r economi yn gyffredinol.

“[Mae’r] newyddion siomedig yma’n adlewyrchu perfformiad gwael Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y trafodaethau gyda’n cyfeillion Ewropeaidd hyd yma, a [dylai hyn] anfon rhybudd go iawn am gyflwr y sector modurol [yn y] cyfnod pontio.”