Mae cynnig gan Blaid Cymru i gymryd camau i fynd i’r afael â hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei dderbyn yn unfrydol gan y Cyngor Sir heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 8).

Yn sgil y cynnig, bydd grŵp trawsbleidiol yn cael ei sefydlu i gymryd tystiolaeth a gwrando ar bryderon ac awgrymiadau cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Bydd hyn wedyn yn cael ei ystyried wrth lywio polisi yn y dyfodol.

Ymysg y mesurau eraill, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gydag ysgolion i addysgu pobol ifanc am hiliaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal adolygiad o enwau strydoedd a chofebau yn y Sir.

Ar ben hyn, mae’r Cyngor wedi cytuno i ddathlu Mis Hanes Pobol Dduon yn yr Hydref a gweithio â’r heddlu i fynd i’r afael â hiliaeth sy’n bodoli yn y system gyfiawnder.

“Heddiw, cymerwyd y cam cyntaf i sicrhau bod lleisiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig eraill yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu clywed, yn cael gwrandawiad, ac yn cael eu lledaenu,” meddai’r Cynghorydd wnaeth gyflwyno’r cynnig, Liam Bowen.

Y Cynghorydd Liam Bowen

“Dyma ein cyfle i fynd i’r afael â methiannau’r gorffennol a gweithio gyda chymunedau BAME i addysgu a dileu hiliaeth o’n cymuned a’n gwlad.

“Mae’n gyfle i sicrhau na fyddwn byth yn anghofio ein gorffennol; y da a’r drwg, er mwyn ein galluogi i greu byd tecach a mwy cyfiawn heddiw ac yfory”.

Ameer Davies-Rana yn trafod ei brofiadau o hiliaeth

Wrth i Gyngor Sir Gaerfyrddin basio’r cynnig yn unfrydol, mae’r cyflwynydd S4C Ameer Davies-Rana wedi bod yn trafod ei brofiadau ef gyda hiliaeth.

Dywed iddo ddioddef hiliaeth yn gyson tra yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag ar strydoedd y Sir.

“Pan es i ysgol uwchradd, dyna ble roedd y comments yn cael eu gwneud fel y p-word, yr n-word. Roedd comments am derfysgaeth,” meddai wrth raglen y Newyddion.

“Doedd athrawon ddim yn gwybod beth i’w wneud, ac roedd hynny yn gwneud fi yn fwy trist achos roedd y bobl yma yn cael dweud beth oedden nhw eisiau.

“Ges i un sefyllfa rili wael nôl yng Nghaerfyrddin pryd o’n i ar y stryd, yn cerdded lawr yng nghanol dydd, ac roedd grŵp o bobl jyst yn gweiddi’r N-word ac roedd e’n sioc fawr i fi.

“Roedd e’ yng nghanol y dydd. Fe wnes i droi mewn i stryd arall a dechrau llefain.”

Mae’r Cynghorydd Liam Bowen wedi dweud wrth golwg360 bod y Cyngor yn awyddus i glywed yr hun sydd gan bobol fel Ameer i’w ddweud.

“Pwrpas y cynnig yw gallu clywed gan bobol fel Ameer sy’n gweld hiliaeth yn ddyddiol, ryda ni falle ddim yn ei weld,” meddai.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi llais i bobol o’r gymuned BAME ac yn gwrando arnyn nhw, oherwydd yr hyn sydd maen nhw’n ei brofi a’r hyn maen nhw yn ei ddweud sydd yn bwysig”.